Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | *Traethawd Ymchwil Genre : dogfen o gasgliadau ymchwil a fydd yn amlinellur prif feysydd maer myfywyr wediu hastudio, gan nodi technegau cyffredin a ganfuwyd, enghreifftiau o raglenni syn defnyddior technegau yma a dadansoddiad o effeithlonrwydd fformatiau cynhyrchu au cynulleidfaoedd targed yn ogystal a chyd-destun hanesyddol. (3,000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | *Cynhyrchu pecyn radio nodwedd rhwng 430 a 5 o hyd, wedii seilio ar genre penodol. Iw gyflwyno ar CD. | 40% |
Asesiad Semester | *Portffolio Cynhyrchu : yn seiliedig ar asesiad 2, bydd gofyn i fyfyrwyr baratoi dogfen syn cynnwys manylion am y genre dan sylw, y ffynonellau ysgrifenedig, person/au a holwyd, agweddau penodol a astudiwyd. (2,000 o eiriau) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Bydd unrhyw aseiniadau ail-sefyll yn dilyn yr un patrwm ond fe fydd yn rhaid dewis pwnc a strwythur creadigol gwahanol. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos a dadansoddi'n feirniadol sut mae genres yn gweithio ym myd radio.
2. Amlygu a gwerthuso sut mae arddull a fformat yn cael eu creu oddi mewn i'r genres gwahanol.
3. Amlygu dealltwriaeth rhagorol o gymhlethdodau'r naratif mewn genre penodol.
4. Trafod natur cynulleidfaoedd radio mewn modd cydlynus.
5. Datblygu syniadau gwreiddiol yn eitem fer sy'n cwrdd a safonau darlledu.
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i genre o'u dewis er mwyn gwella'u dealltwriaeth o ofynion confensiynau'r genre hwnnw a'r dullliau cynhyrchu mwyaf cyffredin sy'n perthyn iddo. Bydd astudiaeth fanwl o'r gwahanol dechnegau a'r defnydd o ddeunyddiau ymchwil penodol ar gyfer rhaglenni sy'n perthyn i fathau gwahanol o genres radio. Mae dwy ran amlwg i'r modiwl hwn. Yn y rhan gyntaf, fe fydd y myfyrwyr yn gwneud ymchwil trylwyr i genre o'u dewis, ochr yn ochr a chyfres o ddarlithoedd sy'n ystyried dulliau methodolegol. Yn ail, fe fyddant yn cyflwyno cynnig ymchwil ar gyfer un eitem benodol mewn genre o'u dewis ac yn mynd ati fel unigolion i wneud gwaith ymchwil gan ddefnyddio nifer o ffynonellau gwahanol: cyfweliadau archif a phersonol, deunydd ar-lein ac adolygiad o ffynnonellau perthnasol. Caiff eu casgliadau eu cyflwyno mewn Dogfen Ymchwil Genre ac fe gaiff yr eitem ei chynhyrchu ar sail y casgliadau yma.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu yn rhan annatod o holl weithgareddau'r cwrs yma ac fe gaiff ei ddatblygu a'i asesu trwy gydol y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i benderfynu ymha genre mae eu prif ddiddordeb/medrau, boed mewn rhaglenni dogfen hanesyddol neu raglenni cerddoriaeth er enghraifft. |
Datrys Problemau | Mae'r broses gynllunio a chynhyrchu yn un anwadal ei natur, ac o'r herwydd mae gofyn i fyfyrwyr ddatrys problemau yn gyson wrth weithio ar eu rhaglenni unigol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff myfyrwyr eu hannog i wrando ar bob math o raglenni radio a'u dadansoddi. Bydd hyn yn gwella'u dysgu au perfformiad. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir medrau ymchwil trwy gydol y modiwl ac fe gaiff y rhain eu hasesu yn yr aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir TG ar gyfer rhywfaint o'r gwaith ymchwil yn ystod y modiwl hwn. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7