Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Datblygu a chyflwyno syniad (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar gyfer rhaglen nodwedd 14 wedii hanelu at ricyn penodol ar Radio 4. Rhaid cyflwynor cynnig ar lafar ir tiwtor, ynghyd a dogfen ysgrifenedig syn egluror cysyniad, y fformat, y gynulleidfa, yr arddull, ac nad syn hwy na 2 dudalen o A4. | 20% |
Asesiad Semester | Dylid cyflwynor cynhyrchiad terfynol 14 o hyd ar ffurf wav. | 60% |
Asesiad Semester | Cynhyrchu portffolio terfynol syn cynnwys dogfennau atodol am y y cynhyrchiad ac syn dangos datblygiad y prosiect a chymwysterau wrth gynllunior cynhyrchiad, yn ogystal ag yn tynnu sylw at broblemau a gafwyd ar hyd y ffordd a sut y cafodd rheiny eu datrys. Dylid cynnwys hefyd y cynnig gwreiddiol, y gyllideb, nodiadau ymchwil, ffynonellau, amserlen y cynhyrchiad , strwythur y rhaglen, y sgript a threfn derfynol y rhaglen. (Nid yw cyfrif geiriau yn berthnasol yma) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Bydd unrhyw aseiniadau atodol, lle bo angen, yn dilyn yr un strwythur ond fe fydd y testun/strwythur creadigol yn wahanol. |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Defnyddio eu gwybodaeth golygyddol mewn cyd-destun proffesiynol ac ymarferol, gan ddangos dealltwriaeth aeddfed o genre, y broses gynhyrchu, polisi golygyddol, cynhyrchu creadigol a chynulleidfa.
2. Dangos lefel uwch o fedrau cyfathrebu, rhyngbersonol ac ymchwilio.
3. Gweithio'n annibynnol wrth gynllunio, gweithredu a chynhyrchu rhaglen radio ffeithiol sy'n cwrdd a safonau proffesiynol.
I ganiatau i fyfyrwyr ddatblyu ymhellach y medrau technegol a golygyddol a ddysgwyd yn ystod Semester 1, gan gynnwys cynhyrchu rhaglen nodwedd ar gyfer radio.
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar fedrau technegol, medrau golygyddol a medrau rheoli cynhyrchiad y myfyrwyr, yn ogystal a'u dealltwriaeth newydd o gonfensiynau cyffredin, marchnad a chynulleidfa, a hynny trwy ofyn iddyn nhw greu, cyflwyno a chynhyrchu rhaglen nodwedd 14' o hyd wedi'i hanelu at ricyn radio penodol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn gofyn i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o ddogfennau cynhyrchu atodol, er mwyn amlygu eu gallu i reoli prosiect a chynllunio cynhyrchiad.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu'r syniad ar gyfer rhaglen a thrafod anghenion y cynhyrchiad gyda chyfranwyr yn hanfodol i'r modiwl hwn. Fe'u hasesir yn yr aseiniad. |
Gwaith Tim | Er mwyn cyflawni'r dasg hwn yn llwyddiannus, fe fydd yn rhaid dibynnu ar gydweithrediad eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae gwella'u dysgu a'u perfformiad eu hunain yn elfen graidd o'r modiwl hwn, ynghyd a hunan-werthuso. Caiff y datblygiad hwn ei werthuso yn ystod y modiwl a'i asesu yn yr aseiniad ar ddiwedd y semester. |
Sgiliau ymchwil | Caiff medrau ymchwil eu datblygu ymhellach wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad lle caiff y medrau hyn eu hasesu. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae hwn yn rhan annatod o'r medrau technegol a gynigir. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7