Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 48 Hours. Yn Saesneg - 3 darlith un awr yr wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg - 5 seminar un awr bob semester |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr ar ddiwedd Semester 2 | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd | |
Asesiad Semester | Traethawd asesiedig 2000 o eiriau yn Semester 2 | 33% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgwylir i fyfyrwyr ddodi fedru adnabod a chymhwyso'r gyfraith berthnasol er mwyn datrys problemau. Disgwylir hefyd iddynt gloriannu a beirniadu'r gyfraith, a bod yn ymwybodol o'r lle sydd i'r diwygio.
Lluniwyd y safbwynt dadansoddol yn arbennig i annog myfyrwyr i lunio dadl argyhoeddiadol ar sail y dystiolaeth berthnasol. Er mwyn deall yn llawn y modd y mae'r gyfraith droseddol yn gweithio mewn cymdeithas, rhaid i fyfyrwyr werthfawrogi datblygiad hanesyddol, sylfaen ddamcaniaethol, a natur goruwchgenedlaethol gynyddol y pwnc. Mae'r modiwl yn hybu'r holl sgiliau deallusol a sgiliau pwnc a nodwyd yng nghanlyniadau dysgu'r rhaglen.
Pwnc sylfaen yw Cyfraith Troseddau, a rhaid ei astudio a llwyddo ynddo er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Un yn unig o'r canghennau lawer o'r gyfraith y gellir eu hastudio yw'r Gyfraith Troseddau, ond gellid dweud mai dyma'r gangen fwyaf a'r un sy'n treiddio i'r rhan fwyaf o feysydd. Hynny yw, mae'r gyfraith troseddau yn cyffwrdd a phob maes arall yng nghyfraith Lloegr: mae'n treiddio i'r gyfraith fasnachol, cyfraith refeniw, cyfraith deuluol, cyfraith yr amgylchedd a llawer o feysydd eraill. Er enghraifft, mae Deddf Cwmniau 1985 yn creu mwy na 150 o wahanol droseddau. Byddwch yn dod o hyd i'r gyfraith troseddau hyd yn oed wrth astudio cyfraith ryngwladol gyhoeddus. Mae'n dilyn felly fod astudio'r egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i'r gyfraith troseddau yn rhan bwysig o unrhyw addysg go iawn yn y gyfraith. Rhaid inni bwysleisio na fydd y cwrs yn ceisio ymdrin a phob trosedd, na hyd yn oed y rhan fwyaf o droseddau penodol yng nghyfraith Lloegr. Mae llawer gormod o droseddau o'r fath. Bydd y pwyslais ar yr egwyddorion sylfaenol. A ellir cael atebolrwydd troseddol heb brofi bai na bwriad troseddol? A ystyrir bod rhywun yn `bwriadu? canlyniad os oedd yn gwybod ei fod yn sgil-effaith anochel i'r ymddygiad bwriadus? A all anwybodaeth am y gyfraith fyth fod yn amddiffyniad? Beth petai rhywun yn mynd ati i gyflawni rhyw drosedd, ond yn rhoi'r gorau i'r syniad cyn ei chyflawni? Er bod y pwyslais ar egwyddorion cyffredinol, ni ellir dysgu'r rhain na'u deall heb gyfeirio at droseddau penodol, a bydd nifer sylweddol o'r troseddau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl. Gellir defnyddio lladdiad (homicide) er enghraifft, i egluro ac esbonio amryw byd o egwyddorion. Gall lladd fod yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon; yn fwriadol neu'n ddamweiniol; yn rhagfwriadol neu'n ganlyniad i gythruddo sydyn. Gall y lleiddiad fod yn feddw neu'n sobr, neu yn wallgof; gall y dioddefwr farw ar unwaith, neu farw wedyn yn sgil esgeulustod meddygol. Mae yna reswm arall hefyd dros astudio dewis gweddol helaeth o droseddau. Mae angen i gyfreithiwr troseddau wybod er na ellir llunio un cyhuddiad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, efallai y gellir llunio trosedd ychydig yn wahanol. Efallai y byddai cyhuddiad o fyrgleriaeth waethygedig yn llwyddo lle y byddai cyhuddiad o ladrad yn methu. Y gyfraith troseddau yw'r pwnc y mae myfyrwyr newydd yn y gyfraith yn dymuno ei astudio ran amlaf, ac rydym yn ffyddiog na fyddant yn cael eu siomi. Mae'n lliwgar ac yn frawychus mewn mannau, ac a gwedd ddynol iawn arni. Ond nid pwnc hawdd mohono. Mae'n amlygu i fyfyrwyr broblemau cymhleth dehongliad statudol, ac yn gofyn am lawer o waith astudio cyfraith achos - a llawer ohoni'n croesddweud ei hun ac yn ansicr. Rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i gwestiynu a beirniadu'r gyfraith, gan geisio ei deall ar yr un pryd.
Amcan y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth gywir o amcanion ac egwyddorion sylfaenol cyfraith droseddol Lloegr, a gwybodaeth ymarferol o amrywiaeth gweddol eang o droseddau ac amddiffyniadau penodol.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4