Cod y Modiwl
GF16220
Teitl y Modiwl
CYFRAITH CYFANSODDIADOL
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Ms Ann P Sherlock
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
 

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
Darlithoedd 30 Awr. Yn Saesneg
Seminarau / Tiwtorialau 6 Awr. Seminarau. Yn Gymraeg
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad 1.5 awr "llyfr agored"  67%
Asesiad Ailsefyll Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd  100%
Asesiad Semester Traethawd asesiedig 1000 o eiriau ar gyfer wythnos 9  33%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:

Asesir y canlyniadau dysgu hyn trwy arholiad ac aseiniad gwaith ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau traethawd a phroblemau, a byddant yn golygu ymdrin a defnyddiau sylfaenol y cyfansoddiad.

Yn ogystal a'r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:

Disgrifiad cryno

Disgrifiad byr

Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol yn yr ystyr nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Beth mae hyn yn ei olygu, pam mae hi felly, ac a ydyw'n gwneud gwahaniaeth ymarferol, yw rhai o'r cwestiynau y byddwn yn eu hystyried yn y cwrs hwn, sy'n ceisio cyflwyno yr astudiaeth o'r gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyflwyno athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn benodol.

Mae'r wir bod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu'n raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr dros y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o'r newidiadau mwyaf yn gymharol ddiweddar wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach byth cafwyd y dadleuon brwd ar ddiwygio Ty'r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i'r cwrs yw'r modd y mae'r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy'n newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio'r arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwnc pwysig arall a ystyrir yn y cwrs yw i ba raddau y mae terfynau i bwerau'r Llywodraeth a'r Senedd. A ydyw'n wir bod 'ran y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau'n ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a oes sicrwydd tebyg yng nghyfundrefn Prydain.

Mae'n sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl barhaol ynghylch rhai sefydliadau yn y cyfansoddiad. Sut y dylid diwygio Ty'r Arglwyddi? Pa rhan y dylai'r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i'r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu'n destun y galwadau am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.

Nod

Nod

Amcan y modiwl hwn yw:
cyflwyno egwyddorion y gyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol, a chyfundrefn gyfansoddiadol Prydain yn benodol, i fyfyrwyr hyd at lefel sy'r bodloni gofynion eithrio proffesiynol;
annog meddwl a dadansoddi annibynnol a beirniadol;
hybu sgiliau gwaith grwp; a
datblygu sgiliau darllen ac ymchwil annibynnol.

Cynnwys

Cynnwys

Dysgir trwy gyfrwng darlithoedd (30) a seminarau/gweithdai (6). Bydd y darlithoedd yn rhoi cyflwyniad i bob testun a bydd tafleni cwrs yn nodi deunydd darllen pellach. Mae seminarau yn grwpiau llai sydd wedi eu cynllunio i drafod materion penodol yn fanylach. Bydd gweithdai hefyd yn canolbwyntio ar destunau arbenigol ac yn anelu i hyrwyddo gwaith grwp ymhlith myfyrwyr. Yn ogystal â'r elfennau hyn dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio cyfran sylweddol o'u hamser yn y llyfrgell yn paratoi ar gyfer seminarau ac yn mynd ar drywydd y deunydd darllen a nodir ar y taflenni.

1. Cyflwyniad cyffredinol i'r Gyfraith Gyfansoddiadol
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain
3. Athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd
4. Rheolaeth y Gyfraith
5. Gwahaniad pwerau
6. Strwythur tiriogaethol y Derynas Unedig a datganoli
7. Sefydliadau a prosesau ddeddfu
8. Grym withrediaethol as atebolrwydd
9. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y Derynas Unedig [ymdrinnir a'r pwnc yn bennaf mewn seminau yn hytrach na'r darlithoedd]

Llyfrau

Peidiwch a phrynu llyfrau cyn dechrau'r cwrs.

Barnett, Constitutional and Adminstrative Law, 6th ed. Cavendish
Bradley & Ewing, Constitutional and Adminstrative Law, 14th ed, Longman
Turpin & Tomkins, British Government and the Constitutional, 6th ed, Cambridge University Press

Rhestr Ddarllen


Gweler LA16220

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4