Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 6 Hours. Seminarau. Yyn Gymraeg - Tair seminar un awr bob semester |
Darlithoedd | 30 Hours. Yn Saesneg - Dwy ddarlith awr yr un bob wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad 1.5 awr ar ddiwedd Semester 2 | 67% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-eistedd yr elfen nas pasiwyd | |
Asesiad Semester | Traethawd asesiedig 1000 o eiriau yn Semester 2 | 33% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Rhaid i fyfyrwyr astudio ecwiti a Chyfraith Ymddiriedau er mwyn cael eu hesgusodi o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas a'r Bar. Sefydlir ymddiriedau [ymddiriedolaethau] am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchenogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'r fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod cael hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'r deillio ohono. Bydd hyn yn digwydd pan fydd apel yn cael ei sefydlu yn sgil trychineb, megis y tan yn stadiwm pel droed Dinas Bradford, pan suddodd fferi Zeebrugge, neu ar ol y gollyngiad olew oddi ar Ynysoedd Shetland. Yn dilyn llofruddiaeth y bachgen bach, Jamie Bulger, yn Lerpwl, sefydlwyd apel i helpu'r teulu ddod dros y drychineb ac er budd y gymuned leol. Bu pobl wrthi'r anfon arian am ddiwrnodau lawer, a bu'r rhaid i gyfreithwyr gael hyd i ffordd o'r drafod a'r ddefnyddio i ddibenion penodol. Ffurfiwyd ymddiriedolaeth i'r diben hwn. Bydd rhai o'r apeliadau hyn yn cael statws elusennol, ond ceir llawer un na fyddant yn cael y statws hwnnw. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddiffiniad elusen a'r holl anghysonderau yn y gyfraith. Er enghraifft, pam y bydd statws elusennol yn aml yn cael ei wrthod i gronfeydd trychinebau; pam y bu i gronfa er hyrwyddo ysgrifennu Joanna Southcote, dynes a gredai ei bod wedi'r beichiogi gan yr ysbryd glan, dderbyn statws elusennol oherwydd ei bod at hyrwyddo crefydd, ond nid cronfa er budd urdd lleianod caeedig Catholig? Pam bod ymddiriedau at ddibenion hynod ecsentrig wedi'r cynnal pryd na all fod yr undyn byw a fyddai'r elwa ohonynt? Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol. Dylai myfyrwyr sy'r cymryd Ecwiti ac Ymddiriedau eisoes fod wedi astudio Cyfraith Tir neu dylent fod yn cymryd y cwrs hwnnw ar yr un pryd. Mae'r adeiladu ar y sgiliau a geir mewn cyfraith tir, ond hefyd yn eu hatgyfnerthu a'r hymestyn.
Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Yr amcan cyntaf yw rhoi cynsail gadarn i fyfyrwyr yn egwyddorion a rheolau Ecwiti ac Ymddiriedau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn derbyn digon o wybodaeth i asesu'r feirniadol lle Ecwiti ac Ymddiriedau yn nhrefniadau ariannol a chyllidol dinasyddion preifat a'r byd masnach yn gyffredinol. Yr amcan olaf yw cynorthwyo'r myfyrwyr hynny sy'r dymuno cael eu esemptio o arholiadau Rhan I y Gyfraith Gymdeithas/y Bar.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6