Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 20 Hours. (20 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) | 60% |
Arholiad Ailsefyll |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol cwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn gallu:
- Asesu'n feirniadol y dulliau canolog sy'n rhan o astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
- Gwerthuso dulliau sy'n cystadlu a'i gilydd o fynd ynglyn a diwygio'r system ryngwladol.
- Gwneud defnydd beirniadol o ddulliau gwahanol o ymwneud a moeseg rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol a chyfiawnder cymdeithasol byd-eang.
- Cymhwyso'n feirniadol wahanol ddulliau o fynd ati i ddadansoddi materion cyfoes yng ngwleidyddiaeth y byd.
10 credydau ECTS
Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddadleuon y gorffennol a'r presennol ynglyn a'r rhagolygon ar gyfer cynnydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.
Bwriad y cynllun hwn yw egluro cymwysiadau cyfoes traddodiadau canolog syniadaeth ryngwladol a dadleuon parhaus ynglyn a natur gwleidyddiaeth y byd a'rr posibilrwydd o'ii ddiwygio.
Mae tair rhan i'r modiwl. Mae Rhan Un yn dadansoddi tair ysgol o feddwl (realaeth, delfrydiaeth a'r dull cymdeithas ryngwladol) sy'n ganolog i astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol. Mae Rhan Dau yn archwilio'r dadleuon cyfoes ynglyn a moesoldeb a rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol, cyfiawnder cymdeithasol byd-eang a rheolaeth yr amgylchedd byd-eang. Mae Rhan Tri yn trafod astudiaethau achos cyfoes sy'n ganolog i ddealltwriaeth o'r rhagolygon ar gyfer diwygiad y system ryngwladol.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4