Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 Hours. (18 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr [1 x arholiad 2 awr] (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.) | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:
- Gwerthuso datblygiadau cyfoes yng ngwleidyddiaeth Cymru a'u lleoli o fewn i fframwaith eangach gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
- Feddu gwybodaeth gyflawn o hanes sylfaenol, sefydliadau, ymarfer gwleidyddiaeth a ffurfio polisiau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a'r Undeb Ewropeaidd, a'r cyd-berthnasau rhwng y lefelau hyn.
- Arddangos ymwybyddiaeth feirniadol o brif faterion damcaniaethol a chysyniadol ar wahanol lefelau llywodraeth a'r rhyngweithiad rhwng y lefelau hyn.
- gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.
10 credydau ECTS
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i fyfyrwyr i hanes, sefydliadau allweddol ac ymarfer cyfoes gwleidyddiaeth yng Nghymru, Prydain a'r Undeb Ewropeaidd.
Nod
Prif amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i hanes, sefydliadau a pholisi ac ymarfer gwleidyddiaetrh yng Nghymru a'u lleoli yng nghyd-destun y Wladwriaeth Brydeinig a Gwleidyddiaeth Ewropeaidd. Felly, mae'r modiwl hefyd yn darparu cyflwyniad cyffredinol I'r drefn wleidyddol yn y wladwriaeth Brydeining a'r sefydliadau Ewropeaidd. Y modiwl hwn yw modiwl craidd rhan un ar gyfer y cynlluniau gradd newydd mewn Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru. Felly, mae'n cyfrannu at bortffolio'r adran o fodiwlau ar Wleidyddiaeth Gymreig, tra'n cynnal yn ogystal yr ymrwymiad i ddarparu modiwlau israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynnwys
Yn dilyn cyflwyniad i hanes, sefydliadau ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, bydd y modiwl yn mynd rhagddo i werthuso hanes, sefydliadau, polisi ac ymarfer gwleidyddiaeth ar lefel y Wladwriaeth Brydeiniig. Mae ail ran y modiwl yn canolbwyntio'r benodol ar leoli gwleidyddiaeth Gymreig gyfoes o fewn i'r cyd-destun hwn. Bydd yn canolbwyntio'r benodol ar hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru a datblygiad y sefydliadau gwleidyddol, cyn symud ymlaen i drafod effaith datganoli a chreu'r Cynulliad Cenedlaethol i Gymru ar ymarfer gwleidyddol ac ar greu polisiau yng Nghymru. Yn olaf bydd yn pwyso a mesur yn feirniadol rol Cymru yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, a'r materion cysyniadol a damcaniaethol perthnasol sy'n angenrheidiol wrth werthuso'r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop
Sgiliau trosglwyddadwy
Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Drwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a'u sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4