Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 8 seminar awr |
Darlithoedd | 16 darlith awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr 1 arholiad 2 awr | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o ddiffiniadau gwahanol o ymyrraeth ddyngarol
2. Dadansoddi'r feirniadol y gwahanol agweddau moesegol tuag at ddefnyddio grym i ddod ag argyfyngau dynol i ben
3 Gwerthuso cyd-destun cyfreithiol ymyrraeth ddyngarol
4. Arddangos dealltwriaeth o gyd-destun gwleidyddol y dadleuon cyfoes am sofraniaeth ac ymyrraeth
5. Arddangos gallu i gysylltu materion cysyniadol ag achosion empeiraidd penodol
Mae'r modiwl yn ceisio darparu hyfforddiant israddedig yn namcaniaeth ac ymarfer ymyrraeth ddyngarol. Mae'r cwestiwn sut ddylai'r gymuned ryngwladol ymateb pan fo gwladwriaethau'r cyflawni troseddau mawr systematig yn erbyn hawliau dynol yn cynnig sialens sylfaenol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar faterion gwleidyddol, cyfreithiol, strategol a moesegol sy'r ynghlwm a'r defnydd o rym i rwystro'r fath droseddau. Mae myfyrwyr yn archwilio sut mae'r ystyriaethau gwleidyddol, cyfreithiol, moesegol a strategol a gyflwynir ar ddechrau'r modiwl yn berthnasol i achosion penodol o ymyrraeth.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6