Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 Hours. (16 x 1 awr) |
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. (7 x 1 awr) |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | ||
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- deall a gwerthuso'r natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethol ddatganoledig a sefydlwyd yn 1999.
Bydd y modiwl arloesol yma'n bwrw golwg ar y gwahanol ymdrechion a gafwyd i sicrhau mesur o hunanlywodraeth i Gyrmu o ddyddiau Cymru Fydd yn niwedd y 19 ganrif hyd at 1997 gan roi sylw arbennig i nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y cynlluniau a osodwyd gerbron. Trafodir yn fwy manwl yr egwyddorion cyfansoddiadol sy'r sail i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a'r gwerthoedd a geiswyd eu hymgorffori yn ei strwythur mewnol. Rhoddir sylw hefyd i natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6