Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 19 Hours. (19 x 1 awr) (yn Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 9 Hours. (9 x 1 awr Seminarau) (yn Gymraeg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. | |
Arholiad Semester | 2 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Traethodau: 1 x 2,000 o eiriau | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn medru esbonio:
- y newidiadau yng nghydbwysedd grym a'u cysylltiad a'r ddau Ryfel Byd
- pam y bu'r Unol Daleithiau a'r UGSS yn chwarae rol ymylol yn ol pob golwg yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
- pam na chafwyd heddwch sefydlog ar ol 1919
- effaith ideolegau ar gysylltiadau rhyngwladol
- datblygiadau mewn syniadau ac arferion rheolaeth economaidd ryngwladol
- cronoleg a tharddiad tranc ymerodraeth
- y graddau yr oedd 1945 ei hun yn drobwynt radicalaidd
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cynnig cyd-destun i ddeall cysylltiadau rhyngwladol yn yr ugeinfed ganrif trwy ymchwilio i ddatblygiadau yng nghydbwysedd grym, syniadau am drefn ryngwladol, newid cymdeithasegol -economaidd, a thyndra o fewn yr ymerodraethau Ewropeaidd hyd at 1945.
Nod
Amcan y modiwl yw astudio'r newidiadau dirfawr a ddigwyddodd yn y gyfundrefn ryngwladol yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Mae'n gwneud hynny trwy annog myfyrwyr i feddwl yn thematig am y cyfnod fel un a aeth trwy gyfres o argyfyngau cysylltiedig rhwng 1895 a 1945.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn agor trwy ddadansoddi'r symud a fu yng nghydbwysedd grym yn Ewrop, yn ogystal a thwf y pwerau newydd y tu allan i Ewrop. Cysylltir hyn yn ei dro a syniadau newydd am reoli'r drefn ryngwladol, fe y' gwelir yn y Ddiplomyddiaeth Newydd ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r mynd yn ei flaen wedyn i ystyried argyfwng yn y drefn wladol a grewyd gan y cynnwrf economaidd a chymdeithasol yn sgil diwydiannu a gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au. Yn olaf mae'r modiwl yn gosod cyfnod olaf yr ymerodraethau Ewropeaidd a'r tyndra a ddatblygodd o'u mewn yng nghyd-destun y datblygiadau eraill hyn.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 credydau ECTS
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6