Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Arolwg o Lenyddiaeth: 1 x 3500 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Prosiect Ymchwil: 1 x 1500 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ddiwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu:
Nod y modiwl yw rhoi i fyfyrwyr y sgiliau ysgrifennu, ymchwil a chyflwyno angenrheidiol er mwyn cwblhau'r traethawd estynedig gorfodol. Trwy ystyried gwahanol strategaethau ymchwil, bydd y myfyrwyr yn deall cryfderau a gwendidau amryw ddulliau methodolegol. Yn y modiwl byddwn yn ystyried sut mae gwyddonwyr cymdeithasol yn llunio cwestiynau ymchwil, sut maent yn llunio damcaniaethau, yn creu cynlluniau ymchwil, yn casglu data ac yn eu dadansoddi. Mae'r modiwl yn cynnwys sesiynau ar sgiliau academaidd sylfaenol: dulliau a strategaethau ymchwil; defnydd a chamddefnydd o ystadegau ac ymchwil arolygon; dadansoddi gwleidyddol cymharol; dewis testun traethawd estynedig; safonau academaidd o gyflwyno; methodoleg; a defnydd uwch o lyfrgelloedd a ffynonellau eraill o wybodaeth yn Aberystwyth a thu hwnt.
Bydd y darlithiau yn trafod pynciau megis sut i diffinio cwestiwn ymchwil a beth yw anghenion cynllun ymchwil. Bydd gwahanol berspectifau, termau a chysyniadau yn cael eu hystyried sydd yn hanfodol ar gyfer gwneud ymchwil mewn gwleidyddiaeth. Rhoddir cyflwyniad i wahanol ddulliau o gasglu ac asesu data, a bydd cwestiynnau moesol a all godi wrth wneud ymchwil yn cael eu hystyried. Bydd pedwar gweithd? ychwanegol yn gyfle i fyfyrwyr ddefnyddio'r cysyniadau a dulliau ymchwil a gyflwynwyd yn y darlithiau i ddatblygu eu prosiect ymchwil unigol.
Trwy gydol y cwrs, bydd cyfleoedd i ymarfer a gwella sgiliau darllen, dealltwriaeth a meddwl. Yn y darlithiau, bydd myfyrwyr yn gwella eu gallu i wrando'r ofalus a chymryd nodiadau. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i feithrin sgiliau beirniadol drwy werthuso gwahanol berspectifau ar wneud ymchwil gwleidyddol. Yn y gweithdai, bydd defnyddio sgiliau analytig a dadleuol yn hanfodol. Bydd y Prosiect Ymchwil a'r Adolygiad o Lyfryddiaeth yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn annibynol a dangos tystiolaeth eu bod wedi casglu a dadansoddi gwybodaeth o wahanol ffynonhellau. Bydd myfyrwyr hefyd yn trefnu eu syniadau yn ofalus a chlir, an yn ysgrifennu'r gryno.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6