Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 22 awr. 1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | 100% | |
Asesiad Semester | Traethodau: 2 x 3,000 o eiriau (50% yr un) | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:
- Deall, dadansoddi, trafod a gwerthuso'r prif safbwyntiau yn y dadleuon deallusol rheini sy'n ceisio dirnad goleuni ar natur gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru;
- Gwerthuso'r dadleuon hyn yng ngoleuni tystiolaeth empiraidd berthnasol, gan gynnwys dadansoddiadau hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasegol; a,
- Dirnad nodweddion y sefyllfa Gymreig - a'r trafodaeth ynglyn a'r sefyllfa hon - o fewn cyd-destun cymharol ehangach.
Bwriad y modiwl yw cynnig gor-olwg o'r cyd-destun cymdeithasegol, gwleidyddol a cyfansoddiadol i fywyd yn y Gymru gyfoes. Modiwl craidd i'r sawl sy'n dilyn y rhaglen 'Arbennigol'.
Gan gyfuno ystyriaeth o'r dystiolaeth empiraidd hefo astudiaeth fanwl o ddadleuon a thrafodaethau mwy cysyniadol eu naws, bwrir golwg feirniadol ar gwestiynau canolog ynglyn a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Yn eu plith ystyrir: datblygiad sefyliadol; esblygiad y gyfundrefn bleidiol; statws economaidd ymylol Cymru; y berthynas gymleth (ddilechdidol?) rhwng integreiddio a datganoli; y berthynas rhwng dosbarth, cenedligrwydd a gwerthoedd cymdeithsasol (y 'traddodiad radicalaidd'); patrymau hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru; lleoliad grym; a gwahaniaethau rhanbarthol oddi mewn i Gymru. Drwy'r cyfan cyfeirir at dystiolaeth gymharol er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r sefyllfa Gymreig.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7