Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 seminar x 2 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 draethawd 4,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | 1 draethawd 4,000 o eiriau | 50% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod a dadansoddi'r datblygiadau yn y cysyniad o 'hunaniaeth' Gymreig a'r 'genedl' Gymreig mewn llenyddiaeth Gymreig.
2. Disgrifio, dadansoddi a chymharu rhai o brif themau llenyddiaeth Gymreig ac Eingl-gymreig yn yr ugeinfed ganrif.
3 Arddangos, trwy waith ysgrifenedig a thrafodaethau seminar, y gallu i drafod a gwerthuso gwahanol agweddau tuag at hanes y wraig Gymreig gyfoes
4. Asesu'n feirniadol a gwerthuso prif faterion a themau diwylliant gweledol Cymru.
5. Adnabod delweddau o Gymru a'i phobl ar ffilm a gwerthuso goblygiadau'r delweddau hyn i'n dealltwriaeth o 'Gymru' a 'Chymreictod'.
Mae'r modiwl hwn yn ffurfio rhan allweddol o ddarpariaeth rhan amser yr adran ym maes dysgu Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Ar y cyd a'r modiwlau eraill, mae'n rhoi cyflwyniad i'r maes hwn ar lefel uwch ac yn cynnig i fyfyrwyr sydd a diddordeb wybodaeth arbenigol o ddelweddau diwylliannol o hunaniaeth Gymreig a'r genedl o'r ugeinfed ganrif ac yn arddangos y berthynas rhwng newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.
Bwriad y modiwl yw archwilio'r datblygiadau yn nelweddu Cymru mewn amrywiaeth o ffurfiau diwylliannol. Mae'n trafod canfyddiadau o hunaniaeth Gymreig a'r 'genedl' mewn llenyddiaeth Gymreig gan gynnwys llenyddiaeth Gymraeg ei iaith a llenyddiaeth Eingl-gymreig, yn y celfyddydau gweledol, a'r delweddau o Gymru a'i phobl ar ffilm, o'r ugeinfed ganrif hyd heddiw.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd rhaid i fyfyrwyr ddysgu cyflwyno'u syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno'u hunain yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir. Byddant yn dod i wybod sut i ddefnyddio'r nifer o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffordd orau o gyfathrebu i'w mantais. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu ac i fod yn uniongyrchol am nodau ac amcanion. Dysgant ystyried yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, ffocws a nodau eu dadleuon neu drafodaeth yn unig. Caiff y seminarau eu rhedeg i grwpiau bach lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau heb eu hasesu fydd prif gyfrwng y dysgu, a bydd pwyslais y modiwl i gyd ar gyfraniad y myfyrwyr a chyfathrebu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Disgwylir i'r modiwl hwn ddenu unigolion sydd eisoes mewn swyddi yn enwedig o fewn y sector gyhoeddus yng Nghymru. O ganlyniad, bydd y modiwl yn fodd i ddyfnhau arbenigedd am y berthynas rhwng materion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru a gall y modiwl fod yn gam i hybu gyrfa. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, paratoi fframwaith prosiect, hogi a datblygu'r prosiect a'i weld yn cael ei gwblhau yn cyfrannu tuag at y portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Datrys Problemau | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl; bydd cyflwyno dau draethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol agweddau; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymol; cynllunio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. |
Gwaith Tim | Bydd seminarau'n cynnwys trafodaethau mewn grwp bach lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr drafod materion sy'n berthnasol i bwnc y seminar. Mae trafodaethau a dadleuon fel hyn yn rhan hollbwysig o'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond gyda chymorth gan y cydlynydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad unigol trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a gweithredu ar eu syniadau eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, paratoi rhestr ddarllen a phenderfynu (gydag arweiniad) ar bwnc traethawd. Bydd y rheidrwydd i gyflwyno traethawd erbyn dyddiad cau yn gorfodi'r myfyrwyr i reoli amser ac adnoddau yn effeithiol. |
Rhifedd | Ddim yn berthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadol a gwerthuso esiamplau a syniadau ar y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc penodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau gwleidyddol cymhleth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno dau draethawd yn dangos sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd y rheidrwydd i leoli adnoddau ymchwil priodol a nodi'r canlyniadau hefyd yn hyrwyddo sgiliau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno'u gwaith wedi'i brosesu ar gyfrifiadur. Gan fod y cwrs yn un rhan amser, bydd rhaid i'r myfyrwyr chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar we, yn ogystal a defnyddio ffynonellau electronig megis BIDS ac OCLC. Yn ogystal, bydd llawer o gyfathrebu gyda'r myfyrwyr a rhwng myfyrwyr yn electronig. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7