Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio ac asesu datblygiadau'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn America a Phrydain;
2. Amgyffred canlyniadau gwahanol y dirwasgiad mawr ar bobl America a Phrydain;
3. Dadansoddi hanesyddiaeth y dirwasgiad mawr;
4. Gwerthuso tystiolaeth wreiddiol, megis llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau,
posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth poblogaidd;
5. Ynganu dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar.
Disgrifiad cryno
Bu'r Dirwasgiad Mawr rhwng y ddau ryfel byd yn nodwedd a ddiffiniodd yr ugeinfed ganrif. Cafodd effaith ar ran fwyaf o'r byd a bu ei ganlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol yn ddwfn a phell-gyrrhaeddol. Mae'r cwrs hwn yn ystyried y Dirwasgiad Mawr trwy gyfrwng astudiaeth gymharol o America a Phrydain gan archwilio'r ffactorau economaidd a achosodd broblemau economaidd mawr, maint a natur diweithdra ac atebion y ddwy lywodraeth i'r problemau y bu rhaid eu gwynebu yn y degawdau `low, dishonest.?
Hefyd, mae'r cwrs yn cymryd golygfa `oddi isod? gan ystyried y profiad o ddiweithdra a thlodi trwy ddefnyddio lleisiau y di-waith a'r tlawd. Mae'r ystyried yr atebion cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol i'r Dirwasgiad, megis gwleidyddiaeth adain-dde ac adain-chwith, mudo ac ymfudo, a chysylltiadau cenedl a llafur. Mae natur y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel byd yn parhau i achosi amrywiaeth barn ymysg haneswyr a bydd y cwrs hwn yn trafod y syniadau hyn ynghyd a dehongliadau adolygiadol. Bydd y cwrs yn defnyddio tystiolaeth wreiddiol gan gynnwys llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau, posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth poblogaidd.