Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 hour lecture |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminarau a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 2 AWR | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL | 100% |
Asesiad Semester | 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
gwerthfawrogi agweddau haneswyr gwyddoniaeth cyfoes tuag at ddatblygiad hanesyddol y gwyddorau
deall dadleuon hanesyddol ynglyn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth a diwylliant.
amgyffred datblygiad cyffredinol y gwyddorau rhwng 1600 a 1900.
deall defnydd gwahanol fathau o dystiolaeth hanesyddol ynglyn a datblygiad a gwyddorau.
Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhannau hanfodol o ddiwylliant modern. Er hyn, rydym yn aml yn meddwl amdanynt fel pe na bai ganddynt eu hanes eu hunain o gwbl. Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno hanes gwyddoniaeth drwy gyfrwng esiamplau o newidiadau 'chwyldroadol' yn ein dealltwriaeth o'r byd o'n cwmpas. Drwy'r esiamplau yma - y Chwyldro Gwyddonol; y Chwyldro Cemegol; Darganfyddiad Cadwraeth Ynni a'r Chwyldro Darwinaidd - bydd y modiwl yn cyflwyno'r modd y medrir deall datblygiad hanesyddol gwyddoniaeth fel rhan anhepgor o ddatblygiadau diwyllianol y cyfnod modern.
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno datblygiadau gwyddonol rhwng 1600 a 1900 yn eu cyd-destun diwylliannol. Bydd y modiwl yn defnyddio'r syniad o chwyldro gwyddonol fel ffordd o ddeall datblygiad hanesyddol y gwyddorau yn ystod y cyfnod.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4