Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG | 70% |
Asesiad Semester | 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Meddiannu ac adolygu'n feirniadol y wybodaeth hanesyddol sydd yn trafod digwyddiadau allweddol, cysyniadau a phroblemau yn ymwneud a rhyfel, cymdeithas a'r cyfryngau yn yr ugeinfed ganrif (o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r cyfnod presennol).
Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw
Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol.
Gallu dehongli hanes mewn gwahanol ffyrdd a gallu asesu rhagoriaethau ac elfennau gwahanol ddehongliadau.
Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.
Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp
Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o brif nodweddion rhyfel a chanlyniadau cymdeithasol rhyfel o 1914 hyd y presennol. Bu i natur ac effeithiau rhyfel ddwysau'n ddirfawr yn yr ugeinfed ganrif, gan esgor ar y syniad o ryfel ddiymatal, sef bod aelodau cymdeithas i gyd yn cael eu dwyn i mewn i ymgyrchoedd rhyfelgar. Nodweddwyd hyn nid yn unig yng nghyd-destun y ddau ryfel byd ond yn ogystal yn y rhyfeloedd rhanbarthol a gafwyd ar draws y byd, e.e Corea, Fiet-nam a'r Gwlff, yn y rhyfeloedd cartref megis yn Rwsia, Sieina, gwledydd De America, y Swdan ac yn y blaen a'r ymgyrchoedd terfysgol megis yng Ngogledd Iwerddon, Gwlad y Basg a'r Dwyrain Canol. Ymhlith y pynciau a drafodir fydd dinistr rhyfel, effeithiau seicolegol rhyfel ar filwyr, effaith colli anwyliaid mewn rhyfel, rol propaganda adeg rhyfel ac wrth baratoi am ryfel; rhan y wladwriaeth adeg rhyfel; canlyniadau rhyfel, megis yn wleidyddol, yn gymdeithasol yn achos statws merched a'r difreintiedig; ac ym mherthynas gwledydd a'i gilydd; heddychiaeth a gwrthwynebiadau eraill i ryfel. Rhoddir sylw arbennig i amgylchiadau yng ngwledydd Prydain, Ewrop ac America
Amcan y modiwl hwn yw ystyried effaith rhyfel ar y gymdeithas. Mae'r modiwl hwn yn edrych ar natur ac effaith rhyfela yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar Ewrop a'r Unol Daleithiau.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth fanwl o nifer o ffynonellau; datblygu'r gallu o ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4