Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 50 munud |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 ARHOLIAD 2 AWR | 70% |
Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau yn y maes yn perthyn i'r cyfnod o 1750 hyd at 1832.
Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig
Gweithio'n annibynnol ac mewn tîm.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Fe fydd y modiwl yma yn mabwysiadu dull thematig er mwyn astudio'r boneddigion yng Nghymru a Lloegr tua diwedd y ddeunawfed ganrif hir. Ymysg y themâu i'w ystyried mae twf cyfoeth newydd a rôl y bonedd yn y gymdeithas mewn perthynas â'r syniad o batriarchaeth. Pa mor agos wnaeth y bonedd lynu at y côd o ymddygiad fonheddig? Bydd cartrefi'r y boneddigion, eu bywydau cymdeithasol a dyletswyddau cyhoeddus yn cael eu harchwilio yn ogystal â'r modd y maent wedi cael eu darlunio mewn celf a llenyddiaeth gyfoes. Bydd dirywiad y bonedd yn cael ei ystyried hefyd.
Mae'r modiwl yma yn cyflwyno'r myfyrwyr i'r ystod eang o lenyddiaeth hanesyddol am y boneddigion yn ystod rhan o'r ddeunawfed ganrif hir. Mae'n helpu ehangu'r ddarpariaeth ar gael i fyfyrwyr Lefel 1, yn enwedig i'r rhai sy'n astudio'r radd Canol Oesol a Chyfnod Modern Cynnar
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4