Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Pwrpas y modiwl yw i roi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i gynllunio darn o waith hanesyddol, eu paratoi gogyfer a'r dasg o gynhyrchu'r traethawd estynedig, a'u cyfarwyddo drwy'r broses o ysgrifennu'r gwaith. Bydd myfyrwyr yn astudio sut i ddiffinio testun addas, sut i chwilio am ffynonellau a sut i osod eu hymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir medru cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd. Datblygir y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bapur drwy'r ymarferion yn semester 1 a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y gweithdy a'r seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. |
Rhifedd | Heb fod yn berthnasol, onibai fod y traethawd wedi seilio ar hanes economaidd gyda gogwydd mesurol amlwg. |
Sgiliau ymchwil | Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o¿r modiwl. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6