Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x seminar 2 awr ynghyd a thiwtorialau unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 CYFLWYNIAD SEMINAR A CHYFRAINIADAU LLAFAR CYFFREDINOL | 20% |
Asesiad Semester | 1 X PROSIECT O 5,000 O EIRIAU | 60% |
Asesiad Semester | 1 X TRAETHAWD BYR O 1,500 O EIRIAU | 20% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
dangos eu bod yn gyfarwydd a'r gwahanol ffyrdd y mae hanes wedi cael ei bortreadu ar y teledu;
dangos ymwybyddiaeth o sut y mae cynhyrchwyr rhaglenni teledu hanesyddol yn ceisio ymdrin a'r gynulleidfa, a'r math o ystyriaethau sy'n dylanwadu ar sylwedd ac arddull rhaglenni;
astudio mewn ffordd beirniadol y berthynas rhwng hanes ar y teledu fel enghraifft o `hanes poblogaidd' a hanes fel disgyblaeth academaidd, a thensiynau all godi yn y berthynas yma;
llunio a chynnal dadleuon yn ysgrifenedig ac ar lafar;
gweithio yn annibynol ac o fewn grwp, a chymryd rhan mewn trafodaethau seminar.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth sylfaenol gadarn am brif themau sydd wedi cael effaith ar hanes a chymdeithas Cymru. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6