Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
Asesiad Semester | 2 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
a) Meddiannu ac adolygu'r feirniadol y wybodaeth hanesyddol sy'r ymwneud a thueddiadau o fewn yr eglwys a'r gymdeithas ym Mhrydain ac Ewrop yn ystod y cyfnod 1300-1600.
b) Amgyffred y gwahanol ddadleuon a dadansoddiadau hanesyddol o'r testunau dan sylw, o'r canoloesoedd hyd heddiw.
c) Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol gan gynnwys tystiolaeth drawsbynciol.
ch) Amgyffred y problemau hanesyddol sy'r ymwneud ag astudiaethau eglwysig a chymdeithasol yn ystod y cyfnod dan sylw.
d) Darganfod a defnyddio ffynonellau hanesyddol gwreiddiol gan ystyried eu cefndir a gwerthfawrogi eu hoed a'r breuder.
dd) Deall pwysigrwydd safleoedd hanesyddol a gwerthfawrogi eu rol fel tystiolaeth fyw.
e) Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol.
f) Gweithio'r annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn gr'r.
ff) Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
Cyfnod cyffrous o newid a diwygio, yn grefyddol ac yn gymdeithasol, oedd y cyfnod dan sylw yn y modiwl hwn. Amcan y modiwl, felly, yw ceisio esbonio rhai o'r digwyddiadau a oedd tu ol i'r newidiadau o fewn yr eglwys a'r gymdeithas ym Mhrydain ac Ewrop yn ystod y canoloesoedd hwyr a'r cyfnod modern cynnar. Ystyrir cefndir crefyddol y gymdeithas Orllewinol, megis hierarchaeth o fewn yr eglwys, y prif urddau crefyddol yn ogystal a rhai o'r symudiadau a elwir yn `hereticaidd?. Trafodir wedyn y Diwygiad Protestannaidd, y Gwrthddiwygiad a'r Dadeni, a hynny yng nghyd-destun cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol y cyfnod. Rhoddir sylw arbennig i rai cymeriadau allweddol, megis Harri VIII, Martin Luther ac Erasmus. Ymhlith y ffynonellau fydd yn cael eu defnyddio yn y modiwl hwn bydd amrediad o destunau gwreiddiol, yn ogystal ag ymweliad a safle(oedd) hanesyddol priodol, er mwyn dangos ehangder tystiolaeth ysgrifenedig y cyfnod lliwgar hwn.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6