Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 seminar |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 3 AWR | 60% |
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG 3 AWR | 60% |
Asesiad Ailsefyll | AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG A GOLLWYD | 40% |
Asesiad Semester | 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a gwerthuso corpws o wybodaeth hanesyddol ym maes diwygio cymdeithasol ym Mhrydain Oes Fictoria
Archwilio'r feirniadol sgil-effeithiau diwydiant a threfoli, a deall y symbyliad y tu ol i ymgeisiadau i wella problemau cymdeithasol.
Gosod pwnc diwygio cymdeithasol o fewn cyd-destun ehangach hanes Prydain yn y 19eg ganrif.
Mynegi dadleuon hanesyddol yn gynyddol hyderus a graenus, mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.
Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol)
Bydd y modiwl yn cychwyn gydag astudiaeth o'r problemau cymdeithasol a ddaeth yn sgil y chwyldro diwydiannol a threfoli, a sut y deallwyd y problemau hynny yng nghyd-destun syniadau cyfoes am rol y wladwriaeth, trefn gymdeithasol, a'r economi. Yn y cyd-destun yma, bydd myfyrwyr yn astudio mudiadau diwygio cynnar megis Deddf Newydd y Tlodion, a deddfau ffatrioedd. Bydd y modiwl hefyd yn asesu dylanwad y geri marwol ac `argyfwng' iechyd canol y 19eg ganrif, ac yn archwilio sut aethpwyd ati i ddarganfod atebion i'r problemau. Astudir hefyd gwestiynau megis cyfraith a threfn a thai, cyn gwerthuso dylanwad y mudiadau diwygio cymdeithasol ar fywydau pobl ym Mhrydain erbyn diwedd yr 19eg ganrif. Bydd y modiwl yn cloi trwy asesu dylanwad tymor hir mudiadau cymdeithasol Fictoraidd.
Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i agwedd bwysig o hanes cymdeithasol Prydain Fictoraidd. Bydd yn rhoi'r cyfle iddynt astudio sut y deallwyd canlyniadau diwydiant a threfoli, a sut y ffurfiwyd atebion gwleidyddol i'r problemau a ddaeth yn sgil y datblygiadau hynny. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i asesu llwyddiant diwygiadau cymdeithasol, ac i astudio dylanwad tymor hir y mudiadau diwygio Fictoraidd.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y sgil trwy'r ddau draethawd a asesir, a'r trafodaethau seminar. Disgwylir i fyfyrwyr i roi cyflwyniadau seminar yn ystod y tymor. Asesir y sgil hon yn ysgrifenedig drwy'r traethodau a'r arholiad. Nid asesir cyflwyniadau llafar yn ffurfiol ond rhoddir adborth i fyfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn helpu i ddatblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd gweithgareddau eraill, megis ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn modd clir a beirniadol, yn datblygu sgiliau cyflwyno a dadansoddi ymhellach. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr adnabod ac ymateb i broblemau hanesyddol a chyflawni ymchwil priodol cyn y seminarau a'r traethodau. Asesir hyn fel rhan o'r traethodau a'r arholiad. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn y seminarau, ac wrth baratoi ar gyfer seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd traethodau'n cael eu dychwelyd yn ystod tiwtorialau a rhoddir cyngor ar wella sgiliau ymchwil ac ysgrifennu traethodau. |
Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddeall a defnyddio peth gwybodaeth rifyddol ar bynciau megis graddfa marwolaethau, a gyflwynir iddynt mewn darlithoedd a seminarau |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu galluoedd y myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod o ffynonellau, a'i chynnwys mewn dadleuon cydlynol o fewn cyd-destun cysyniadol a deallusol |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y sgiliau yma trwy'r ymchwil y disgwylir i fyfyrwyr ei gwneud gogyfer â'r traethodau a'r seminarau. Asesir hyn fel rhan o asesiad y traethodau a'r arholiad |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr i ddarganfod deunydd priodol drwy amrywiol ffynonellau electronig a'i gynnwys yn eu gwaith. Anogir myfyrwyr hefyd i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6