Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 AWR, AC IDDO 3 CHWESTIWN | 60% |
Asesiad Semester | DAU TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu bywydau a phrofiadau menywod yn ystod y cyfnod sydd dan sylw;
Nodi ac esbonio y newidiadau ym mherthynasau y rhywiau ym Mhrydain fodern;
Lleoli profiadau cyfnewidiol menywod a pherthynasau rhwng y rhywiau yng nghefndir ehangach hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol Prydain;
Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus.
Mae'r cwrs yn arolygu hanes menywod a chysylltiadau'r rhywiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod modern. Mae'r ystyried profiadau amrywiol a chyfnewidiol menywod mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ac mae'r lleoli'r datblygiadau hyn yn hanes ehangach Prydain. Ymhellach, mae'r cwrs yn archwilio'r diffiniadau rhyw cyfnewidiol a'r heffaith ar gysylltiadau'r rhywiau. Lleolir yr agweddau hyn o brofiadau menywod mewn fframwaith amseryddol sydd yn arolygu hanes menywod o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd.
Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy'r Gymraeg yn Rhan Dau. Cyflwynir y myfyrwyr i rai o brif brofiadau menywod ym Mhrydain fodern ac ystyrir syniadau pwysig yngl'r a chysylltiadau'r rhywiau.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau'r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i'r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o'r trathodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i'r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu'r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i'r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu'r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o'r traethodau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau ynglyn ag arddull a chynnwys. Anogir y myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a'u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon. |
Rhifedd | Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau sylfaenol yn y darlithiau ac asesir y medrau hyn fel rhan o'r traethodau lle mae'n addas. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau Beirniadol Hanesyddol |
Sgiliau ymchwil | Datblygir hyn trwy'r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a'r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o'r sgiliau hyn. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6