Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
Asesiad Semester | 1 traethawd x 2,500 o eiriau, 1 traethawd x 4,000 o eiriau | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America;
2. Adolygu'r feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a'r gwasanaethau iechyd;
3. Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl cyffredin;
4. Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus;
5. Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhagymadrodd i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Bydd y modiwl yn dangos sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau'r Dadeni o reswm, rhesymoledd a'r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd datblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol wedi ei leoli yng nghyd-destun t'r y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianeiddio a threfoli Prydain.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6