Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG A GOLLWYD | 100% |
Asesiad Semester | 1 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Deall ac adolygu'r feirniadol corpws o wybodaeth hanesyddol yn ymwneud a hanes gwleidyddol a chymdeithasol Cymru fodern.
Amgyffred y prif ffactorau sydd wedi effeithio ar ddatblygiad Cymru yn y cyfnod dan sylw, gan gynnwys newidiadau mewnol a ffactorau yn deillio o'r cyd-destun Prydeinig a byd-eang.
Darllen, dadansoddi a gwerthuso mathau gwahanol o dystiolaeth hanesyddol, gan ganolbwynio ar ffynonellau eilradd.
Mynegi dealltwriaeth yn gynyddol hyderus a graenus, a thrafod materion perthnasol yn ysgrifenedig o fewn cyd-destun academaidd
Gweithio'n annibynnol ac mewn cydweithrediad ag eraill, a chymryd rhan mewn trafodaeth o fewn grwp (heb ei asesu'n ffurfiol).
Gan gychwyn gan olrhain newidiadau cymdeithasol ac economaidd ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i astudio cyfnod cynhyrfus gyda chanlyniadau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrhaeddol. Bydd y modiwl yn astudio dominyddiaeth y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur yn eu tro, yn ogystal a mudiadau poblogaidd megis Anghydffurfiaeth radical, y mudiad o blaid pleidlais i ferched, undebaeth lafur a mudiadau cenedlaetholgar. Bydd cyfle hefyd i astudio sut effeithiodd y cyd-destun Prydeinig a grymoedd byd-eang ar wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru
Nod y cwrs hwn yw cynnig darlun cryno o hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru rhwng 1850 a 1997. Bydd y modiwl cyffredinol hwn yn creu cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr drafod cwestiynau o newid a pharhad, syniadaeth a hunaniaeth, gan sefydlu sylfaen gref gogyfer modiwlau Hanes Cymru yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth sylfaenol gadarn am brif themau sydd wedi cael effaith ar hanes a chymdeithas Cymru. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4