Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 darlith 50 munud |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 seminar 50 munud a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr 1 ARHOLIAD 2 AWR | 70% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 2 AWR A GWAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL | 100% |
Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 30% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru yn perthyn i'r cyfnod o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Myfyrio ar a dadansoddi'n feirniadol ffynonellau gwreiddiol a modern.
Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon llafar ac ysgrifenedig.
Gweithio'n annibynnol ac mewn tim.
Cynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol a datblygu sgiliau addas at astudio hanes.
Nod yr astudiaeth hon ar Gymru yn oes y chwyldroadau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru mewn cyfnod o newid economaidd, diwylliannol a gwleidyddol prysur. Dadansoddir strwythur grym yn y gymdeithas ynghyd a'r ymateb yng Nghymru i'r chwyldro diwydiannol, y chwyldro yn America a'r chwyldro yn Ffrainc. Yn ogystal, trafodir effaith y Rhyfeloedd Napoleonaidd ar Gymru a'r mudiadau radicalaidd a ddatblygodd yn ei sgil.
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan II.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo¿n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4