Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | YMARFERIAD PRECIS: 1,000 GAIR | 25% |
Asesiad Semester | UN PROSIECT BYR: 2,000 GAIR | 50% |
Asesiad Semester | UN YMARFERIAD LLYFRYDDIAETHOL: 1,500 GAIR | 25% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol
darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol
cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil
mynd i'r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol
dangos eu bod wedi mynd i'r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn gwaith
ysgrifenedig (asesedig)
myfyrio'n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau
Bydd y cyfres seminarau yn defnyddio cyfnodau tyngedfennol yn hanes Cymru er mwyn tynnu sylw at sut mae haneswyr yn trin a thrafod pynciau penodol ynghyd a chyflwyno technegau a sgiliau angenrheidiol ar gyfer myfyrwyr hanes. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at at y dull hwn sy'n seiliedig ar sgiliau ac yn nodi'n fras y materion hynny sy'n ganolog i waith yr hanesydd.
Amcan y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o'r 'sgiliau' pwysicaf, er mor sylfaenol y bont, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Bwriedir y modiwl fel cwrs craidd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ar gyfer cynllun gradd yn yr Adran sy'n cynnwys Hanes Cymru
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol mewn perthynas â chynnydd; cynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau ynghyd â ffactorau a allai effeithio ar atebion posib; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio'r rhyngrwyd yn addas. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4