Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG, AC IDDO 3 CHWESTIWN | 60% |
Asesiad Semester | 2 TRAETHAWD 2,500 O EIRIAU | 40% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu patrymau demograffig a threfoli yng Nghymru dros gyfnod o 250 mlynedd
Beirniadu ac asesu canlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol trefoli
Lleoli profiadau trefol o fewn cyd-destun ehangach hanes modern Cymru a Phrydain;
Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd sy'r gynyddol feirniadol a deallus.
Bydd y modiwl yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio un o'r brif ffactorau sydd wedi bod yn gyfrifol am newid cymdeithasol yn y cyfnod modern ? sef trefoli. Asesir y rhesymau dros dwf y trefi, ac astudir patrymau demograffig. Yna bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol trefoli. Beirniadir y dadansoddiad traddodiadol o gymunedau diwydiannol cynnar y de fel `Cymunedau ar y Ffin?, ac astudir digwyddiadau syfrdanol megis Terfysg Merthyr. Astudir trefoli mwy eang ail hanner Oes Fictoria mewn dyfnder. Bydd seminarau yn trafod amrywiol agweddau o fywyd trefol ? megis iechyd cyhoeddus, trosedd a moesoldeb, mewnfudo, rhaniadau daearyddol, a phatrymau hamdden ? a chymherir gwahanol drefi. Caiff datblygiad hunaniaeth a syniadaeth sifig sylw teilwng. Bydd rhan ola'r cwrs yn olrhain profiad trefol yr ugeinfed ganrif, gan astudio'r dirwasgiad, diwygio tai, cynllunio trefol, ail-lunio'r trefi ar ol y rhyfel, ac ail-ddatblygiad canol dinas yn y cyfnod cyfoes. Rhoddir cynnwys y modiwl o fewn cyd-destun syniadaethol sydd wedi datblygu o ganlyniad i ddatblygiad hanes trefol fel is-bwnc pwysig yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.
Bydd y modiwl yn cynnig i fyfyrwyr i cyfle i astudio datblygiad cymdeithas yng Nghymru dros gyfnod hir, gan olrhain y trawsnewidiad o gymdeithas wledig i un trefol. Bydd myfyrwyr yn medru astudio sgil-effeithiau cymdeithasol y newidiadau hyn
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau?r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i?r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r trathodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i?r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu?r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i?r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda?i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau yngl?n ag arddull a chynnwys. Anogir y myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a?u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon. |
Rhifedd | Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau ynglyn a mudo, newid demograffig a datblygiad daearyddol trefi. Asesir y gallu i ddefnyddio?r wybodaeth yma mewn ffordd priodol fel rhan o?r traethodau lle mae?n addas. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y modiwl yn datblygu gallu?r myfyrwyr i gasglu tystiolaeth hanesyddol o ystod y ffynonellau, a?i gymhathu i ddadleuon craff o fewn cyd-destun syniadaethol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir hyn trwy?r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i?w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o?r sgiliau hyn. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6