Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Cyfarwyddyd unigol yn ol yr angen gan oruchwylwyr y traethodau ymchwil. |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Ailgyflwyno traethawd a fethodd hyd at flwyddyn ar ol y canlyniad gwreiddiol, ar gyfer marc heb fod yn fwy na 50 | |
Asesiad Semester | Traethawd hir 20,000 o eiriau | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;
Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy'n dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;
Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;
Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadau a chyflwyniad.
Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA yn Hanes Cymru, sef darn o waith ymchwil annibynnol ar bwnc yn ymwneud a Hanes Cymru, o hyd at 20,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio'r ymchwil.
Y traethawd hir yw'r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae'n llenwi'r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu'r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddo, ei drefnu, a'i gyflwyno mewn ffordd sy'n cynnal dadl sy'n argyhoeddi ac sy'n gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol. Ni ddisgwylir o reidrwydd i'r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy'n arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dangos y gallu i gyfleu syniadau beirniadaol cymhleth, ar sail ymchwil annibynnol, ar ffurf traethawd academaidd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Heb fod yn berthnasol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Casglu a dadansoddi data'n feirniadol lle bo galw. |
Sgiliau pwnc penodol | Gallu i gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil ym maes hanes Cymru, gan arddangos sgiliau lefel meistr wrth leoli ac asesu corff o ddeunydd o ran ffynonellau gwreiddiol a llenyddiaeth hanesyddol a chyflwyno ymchwil annibynnol ar ffurf ysgrifenedig i gynulleidfa academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Darganfod a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gyda golwg arbennig ar hanes Cymru. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r dechnoleg wrth ymchwilio, gan gynnwys drwy'r rhyngrwyd, ynghyd a defnyddio prosesu geiriau wrth lunio'r traethawd. |
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7