Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Wrth gwblhau'r modiwl yma dylai myfyrwyr allu:
- dangos dealltwriaeth o'r elfennau damcaniaethol ac ymarferol o redeg busines,
- datblygu sgiliau sylfaenol mewn Marchnata a Chyfrifeg,
- dangos dealltwriaeth o ffurfiau cyfreithiol o fusnes a'r goblygiadau trethiant,
- paratoi cynllun busnes ar gyfer menter newydd,
- datblygu sgiliau personol megis cyfathrebu ac adeiladu tim.
Disgrifiad cryno
Pwrpas y cwrs yw magu dealltwriaeth o'r elfennau damcaniaethol ac ymarferol a geir ym myd busnes trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynir amryw o feysydd megis Marchnata, Cyfrifeg a Chyllid, Trethiant a Buddsoddi a'r Cynllun Busnes.
Yn ystod a semester mi fydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i baratoi a datblygu cynllun busnes i'w gyflwyno ar ddiwedd y cwrs.