Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 awr 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11110 trwy gyfrwng y Saesneg). |
Seminarau / Tiwtorialau | 1 Awr 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial). |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 80% |
Asesiad Semester | Bydd marciau ar gyfer eich gwaith cwrs wedi ei seilio ar eich presenoldeb yn ddarlithoedd, tiwtorialau a'r gwaith yr ydych yn cyflwyno | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. mesur setiau datrysiad ar gyfer anhafaleddau elfennol.
2. penderfynu a yw set o wir rifau wedi eu ffinio ai peidio.
3. penderfynu ar swpremwm ac inffimwm setiau ffiniedig.
4. disgrifio'r syniad o ddilyniannau o wir rifau a phenderfynu a yw'r dilyniannau hynny'n gydgyfeiriol neu ddargyfeiriol.
5. defnyddio damcaniaethau safonol ar gydgyfeiriadau o ddilyniannau.
6. defnyddio dilyniannau wedi'u diffinio gan berthynasau cylchol.
7. defnyddio'r profion sylfaenol ar gyfer cyfresi cydgyfeiriol.
8. mynegi a defnyddio'r ddamcaniaeth gwerth cymedrig ar gyfer calcwlws differol, damcaniaeth Taylor a damcaniaeth Maclaurin.
Cwrs cyntaf mewn Dadansoddi Mathemategol sy'n anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o gyfyngu a pharhad yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Mae'r syniadau hyn yn chwarae rhan elfennol yn natblygiad mathemateg wedi hyn.
Mae'r modiwl hwn yn anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o gyfyngu a pharhad yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Bydd agweddau damcaniaethol y pwnc yn cael eu datblygu ar y cyd â'r technegau sydd eu hangen i ddatrys problemau.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4