Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 awr 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11210 trwy gyfrwng y Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 1 Awr 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial). |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 80% |
Asesiad Semester | Bydd marciau ar gyfer eich gwaith cwrs wedi ei seilio ar eich presenoldeb yn ddarlithoedd, tiwtorialau a'r gwaith yr ydych yn cyflwyno | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. adeiladu model mathemategol syml.
2. datrys hafaliadau differol gradd gyntaf a hafaliadau differol llinellol trefn dau gydag amodau cychwynnol neu ffiniedig.
Gellid dadlau mai mathemateg yw'r ffordd mwyaf effeithlon a llwyddiannus o ddisgrifio'r byd go iawn. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r syniad o fodelu mathemategol ac i ddatblygu'r sgiliau technegol ar gyfer datrys y problemau matehmategol sy'n codi mewn cymwysiadau. Bydd y maes llafur yn cynnwys technegau o integriad, hafaliadau differol gradd gyntaf a hafaliadau differol llinellol trefn dau. Bydd enghreifftiau yn cael eu cymryd o fioleg, economeg a ffiseg.
I ddatblygu'r sgiliau technegol a'r allu i ddefnyddio calcwlws mewn cymwysiadau.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4