Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 awr 20 x sesiynau 1-awr o ddarlithoedd MP14010 a dosbarthiadau esiampl (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg) |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Asesiad semester Gwaith cwrs: 2 taflen asesiad | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. disgrifio egwyddorion sylfaenol Dynameg a Pherthynoledd Arbennig.
2. modelu problemau mewn dynameg a pherthynoledd arbennig gydag hafaliadau mathemategol, cymhwyso technegau datrys elfennol i'r hafaliadau hyn a dehongli'r canlyniadau mewn cyd-destun ffisegol gwreiddiol.
3. datrys problemau rhifol mewn dynameg llinellol a chylchdro ac mewn perthynoledd arbennig.
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i'r ddamcaniaeth glasurol o ddynameg a'r ddamcaniaeth o berthynoledd arbennig. Bydd y problemau sy'n cael eu trafod mewn dynameg yn cynnwys cinemateg clasurol, Cyfreithiau Newton, egni a momentwm a mudiant o dan ddisgyrchiant. Bydd goblygiadau yr egwyddorion o berthynoledd arbennig ar gyfer y cysyniadau o ofod ac amser hefyd yn cael eu hastudio. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatrys problemau a bydd taflenni esiampl yn cynnwys ymarferion rhifol.
Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau dynameg a pherthynoledd, gyda phwyslais ar ddatrys problemau, ac mae'r cwrs yn addas fel modiwl craidd ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg. Mae'r modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth uwch o'r pynciau hyn fel yn MP21010.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4