Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr. (3 x 1 awr dosbarth esiampl) |
Darlithoedd | 19 Awr. (19 x1 awr o ddarlithoedd o MA21410 trwy gyffrwng y Saesneg) |
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. darganfod pa strwythurau algebraidd sydd mewn gofodau fector;
2. cymhwyso criteria i is-gofodau am rhyw gofod fector;
3. darganfod y bas ar gyfer gofod fector;
4. profi a chymhwyso gosodiadau yn y theori o gofod fector;
5. disgrifio'r cysyniad o drawsffurfiad llinol;
6. cyfrifo matricsau sy'n cynrychioli trawsffurfiadau llinol;
7. darganfod trefn a threfn wag y trawsffurfiad a'r matricsau;
8. gwneud cyfrifiadau mewn gofod lluoswm mewnol;
9. croeslinio matricsau, yn enwedig matricsau cymesur.
Cyflwynwyd y cysyniad o'r gofod fector yn y modiwl yma. Datblygwyd rhai syniadau o'r flwyddyn cyntaf. Dangosir, ar yr arwyneb, bod rhai problemau mathemategol yn debyg iawn. Er enghraifft, mae'r datrysiad o systemau o hafaliadau llinol a hafaliadau differol llinol yn debyg iawn, a gellir defnyddio'r un broses yn gydamserol yn yr achos yma.
I ddatblygu rhai technegau matricsaidd a ddigwyddodd mewn gosodiad haniaethol yn y modiwlau blwyddyn cyntaf. Cyflwyno cysyniadau o'r gofod fector a mapiadau rhwng gofodau fector. Datblygu technegau pellach am gyfrifiadau mewn fectorau gofod a dangos mae'r technegau yma yw'r ffordd gorau i ystyried problemau llinol.
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5