Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | 11 sesiwn ymarferol pob un yn 3 awr o hyd. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol | 20% |
Asesiad Semester | Dyddiadur Labordy | 60% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar Powerpoint (drwy'r Gymraeg) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
- cyflawni arbrofion syml mewn Ffiseg
- cymhwyso dulliau dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau
- diddwytho casgliadau priodol o'r canlyniadau
- cyflwyno eu gwaith mewn dyddiadur labordy, adroddiad ffurfiol a chyflwyniad Powerpoint
Cynnwys
Adeilada'r modiwl ar y rhagarweiniad a roddwyd ym modiwl PH05010 i Ffiseg arbrofol. Mae'r pwyslais yn parhau ar hyfforddi'r myfyrwyr i ddefnyddio cyfarpar labordy sylfaenol, ar gymhwyso'r technegau dadansoddi cyfeiliornad a gyflwynwyd yn y modiwl blaenorol, ac ar ddehongli canlyniadau er mwyn dod i gasgliadau dibynnol. Datblygir sgiliau cyflwyno gwaith yng nghyd-destun yr arbrofion.
Disgrifiad cryno

Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolTipler, Paul Allen (c2008.) Physics for scientists and engineers :with modern physics /Paul A. Tipler, Gene Mosca. 6th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3