Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG11010
Teitl y Modiwl
FFISEG GLASUROL 1
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Ffiseg Safon Uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 4 gweithdy 1 awr a thiwtorial termau 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   70%
Asesiad Semester Taflenni enghreifftiau  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Deall egwyddorion deddfau serofed a chyntaf thermodynameg a theori cinetig nwyon a chymhwyso'r rhain i ddatrys problemau cysylltiedig.
2. Disgrifio lledaeniad ton drwy nodiant mathemategol a deall ei gymwysiadau.
3. Disgrifio egwyddorion sylfaenol opteg geometreg a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
4. Deall diffreithiant a chyfyngiadau i ddatrysyn (resolution) offerynnau optegol.
5. Disgrifio gweithrediad laser a rhoi enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.

2. Deall diffreithiant a chyfyngiadau i ddatrysyn (resolution) offerynnau optegol.
3. Disgrifio gweithrediad laser a rhoi enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.
4. Deall egwyddor deddfau serofed, cyntaf ac ail thermodynameg a defnyddio'r dair deddf i ddatrys problemau cysylltiedig.
5. Deall egwyddorion theori ginetig ac esbonio amrywiadau mewn cynhwysedd gwres nwyon gyda thymheredd yn nhermau poblogaeth lefelau egni.
6. Adnabod prif gamau thermodynamig mewn gweithrediad peiriannau gwres, cyfrifo effeithlonrwydd a bod yn gyfarwydd â chysyniadau sylfaenol cildroadedd ac entropi.

Disgrifiad cryno

Mae'r elfen ffiseg thermol o'r modiwl yn delio gyda phrosesau sy'n ymwneud â newid gwres i waith ac i'r gwrthwyneb. Gellir deall prosesau thermol ar raddfa macrosgopig yn ogystal ag ar raddfa atomig. Cyflwynir deddfau serofed a chyntaf thermodynameg a chysyniadau gwres a gwaith drwy ystyried y system nwy. Cyflwynir hefyd ystyriaeth ficrosgopig o'r theori ginetig.

Opteg yw un o'r canghennau mwyaf llwyddiannus o ffiseg glasurol a gellir ei gymhwyso ymhob math o dechnoleg yn amrywio o ficrosgopeg i ffotoneg. Mae'r cwrs hwn yn rhoi theori sylfaenol tonnau, ac opteg geometregol a ffisegol. Caiff cymwysiadau o'r rhain mewn technoleg fodern eu trafod.

Nod

Mae'r modiwl yn cyflwyno ffiseg thermol gyda thrafodaeth o brosesau macrosgopig a microsgopig. Mae hefyd yn datblygu egwyddorion a thechnegau opteg geometregol a natur donnog golau. Gosodir pwyslais ar ddatrys problemau drwy daflenni enghreifftiau sy'n cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd i gynlluniau gradd anrhydedd mewn ffiseg ac yn paratoi'r myfyrwyr i ddefnyddio'r testunau yn astudiaethau uwch Rhan 2.

Cynnwys

FFISEG THERMOL
1. Nwy delfrydol: newidynnau cyflwr, newid cyflwr, hafaliad cyflwr, deddf nwy delfrydol.
2. Deddf serofed thermodynameg: cydbwysedd thermol, tymheredd a graddfeydd tymheredd.
3. Deddf gyntaf thermodynameg: egni mewnol, gwres, gwaith; prosesau isothermal, isobarig ac adiabatig; cynhwysedd gwres a gwres cudd.
4. Theori ginetig nwyon: deilliad gwasgedd drwy ystyriaethau mewn mecaneg, dosraniad Maxwell-Boltzmann; buaneddau isc-cymedr-tebygol; tymheredd a phoblogaeth lefelau egni.

TONNAU
1. Tonnau teithiol: tonfedd, amledd, cyflymder cydwedd, cyflymder grŵp.
2. Enghreifftiau: tonnau ar linyn, tonnau sŵn, tonnau electromagnetig.
3. Ffenomenau ton: arosodiad tonnau, effaith Doppler.
4. Hafaliad ton.

NATUR OPTEGOL A THONNOG GOLAU
1. Opteg geometregol a ffisegol a'u defnydd mewn offerynnau a thechnegau optegol.
2. Gwasgariad, ymyriant, diffreithiant (holltau unigol a lluosog).
3. Terfan i ddatrysyn offer optegol.
4. Gweithrediad laser ac enghreifftiau o ddefnydd priodweddau cydlyniad golau laser.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r pecynnau gwaith cartref electronig wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy'r llyfrau graddau ar-lein.
Rhifedd Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd y darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Caiff hwn ei gyfeirio gan waith cartref ar-lein. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4