Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FGM5860
Teitl y Modiwl
PROSIECT ESTYNEDIG
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu. | 100% |
Asesiad Semester | Ymarfer ar baratoi ac adolygu prosiect (Gregynog) (drwy'r Saesneg) | 15% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol gan gynnwys yr adolygiad llyfryddiaeth (yn Saesneg, ond gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 60% |
Asesiad Semester | Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) | 10% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg) | 15% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
1. Dangos dealltwriaeth fanwl o'r ffiseg yn eu testun astudio.
2. Adolygu'r datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil dan sylw fel a gofnodir yn y llyfryddiaeth a arfarnwyd.
3. Cynllunio a gweithredu prif brosiect ymchwil y cwrs gradd.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun.
5. Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol.
6. Paratoi, cyflwyno ac adolygu ceisiadau ymchwil.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7