Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GF34720
Teitl y Modiwl
SYSTEMAU A SGILIAU CYFREITHIOL AR GYFER CYNLLUNIAU BA
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
LA15710, GF14720, LA34720, GF14230, LA14230, GF34230, LA34230
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 30 awr (Yn Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 6 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg pob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar ddiwedd Sem 1  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar ddiwedd Sem 2  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad (Sem 1)  Ailsefyll yr elfen a fethir  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Ardoliad (Sem 2)  Ailsefyll yr elfen a fethir  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro a dangos dealltwriaeth o strwythur a datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, a'r rheiny sy'n chwarae rhan ynddi
2. Egluro defnydd ac arwyddocâd cynsail farnwrol a'i pherthynas â chyfundrefn y llysoedd
3. Dadansoddi'n feirniadol y prosesau wrth lunio deddfwriaeth
4. Dadansoddi, a dangos dealltwriaeth o'r proses o ddehongli statudol barnwrol
5. Dangos gwybodaeth ynghylch ffurfiau amgen o ddatrys cynnen ac asesu eu hyfywedd a'u defnyddioldeb
6. Dangos gallu i ddod o hyd i wybodaeth gyfreithiol wrth ddefnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled er mwyn dangos lefel sylfaenol o gymhwysedd wrth leoli a defnyddio prif ffynonellau a ffynonellau eilaidd y gyfraith
7. Dehongli, gwerthuso a dadansoddi'n feirniadol brif ffynonellau a ffynonellau eilaidd y gyfraith a'u haddasu wrth resymu'n gyfreithiol
8. Dangos sgiliau nodi achosion a datrys problemau
9. Dangos gallu i drefnu syniadau a dadleuon wrth addasu'r gyfraith i sefyllfaoedd o ffaith
10. Llunio dadleuon cyfreithiol a defnyddio rhesymu cyfreithiol wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig

Disgrifiad cryno

(i) Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i strwythur y gyfundrefn gyfreithiol yn Lloegr a Chymru, yn cynnwys Llysoedd a thribiwnlysoedd; rôl proffesiwn y gyfraith; a sut y mae'r dull amgen o ddatrys cynnen yn gweithio. Dadansoddir yn fanwl waith y Farnwriaeth wrth ddehongli deddfwriaeth a datblygiad cyfraith achosion, ynghyd â swyddogaethau'r rheithgor. Darperir dealltwriaeth drylwyr o'r byd y mae'r gyfraith yn gweithredu ynddo.

(ii) Mae'r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio'r Gyfraith yn y Brifysgol drwy eu cyflwyno i'r ystod o sgiliau y bydd yn rhaid iddynt eu meistroli os ydynt am lwyddo yn yr astudiaethau hynny. Bydd hyn yn cynnwys darllen deddfwriaeth ac achosion; dadansoddi beirniadol; ysgrifennu traethodau; nodi achosion a datrys problemau.

Cynnwys

1. Ffynonellau gwybodaeth gyfreithiol, yn cynnwys cronfeydd data'r llyfrgell a chronfeydd data cyfreithiol (gyda chyfraniadau gan Lyfrgellydd y Gyfraith; a chynrychiolwyr Westlaw a LexixNexis)
2. Swyddogaethau'r gyfraith a Chyfundrefn y Llysoedd
3. Sut y mae cynseiliau yn gweithio; darllen achosion a nodi achosion (bydd hyn yn cynnwys ymarfer ymarferol yn y ddarlith ar nodi achosion)
4. Deddfwriaeth; darllen deddfwriaeth a dehongli'n statudol
5. Datrys problemau mewn perthynas â throseddau cyfraith gwlad a deddfwriaethol (bydd pob un o'r darlithoedd datrys problemau yn gysylltiedig ag ymarfer ymarferol i'w baratoi gan y myfyrwyr cyn y darlithoedd)
6. Dadansoddi achosion a sylwebaethau'n feirniadol eto, ymarferion ymarferol ar sut i ddadansoddi'n feirniadol.
7. Pobl ym myd y gyfraith, yn cynnwys proffesiwn y gyfraith; ynadon heddwch; y farnwriaeth; a'r rheithgor
8. Sgiliau pellach: Ysgrifennu traethodau a throednodiadau; paratoi ar gyfer arholiadau; ac osgoi ymddygiad annheg
9. Tribiwnlysoedd; gweithdrefnau ymchwiliol a gwrthwynebus
10. Y dull amgen o ddatrys cynnen a chyd-drafod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu (llafar) - Paratoi, a thrafod, mewn seminarau gwrthwynebus Cyfathrebu (ysgrifenedig) - Yn yr arholiad, defnyddio cyfraith achosion mewn sefyllfaeoedd cyfreithiol a ffeithiol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith
Datrys Problemau Paratoi a thrafod cwestiynau datrys - problemau mewn darlithoedd a seminarau
Gwaith Tim Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp yn arbennig mewn seminarau gwrthwynebus lle bydd grwpiau myfyrwyr yn dadlau dros egwyddorion cyfreithiol sefydlog ac yn eu herbyn
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd, a pharatoi seminarau, yn cynnwys paratoi nodiadau achosion ysgrifenedig a dadansoddiadau beirniadol
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion. Darllen prif ffynonellau achosion a deddfwriaeth Datrys problemau; dadansoddi beirniadol a nodi achosion (Asesir ambell elfen)
Sgiliau ymchwil Ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd; paratoi seminarau
Technoleg Gwybodaeth Mewn darlithoedd; ymchwilio cyn ac ar ôl y darlithoedd; ac wrth baratoi seminarau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6