Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW32220
Teitl y Modiwl
DAMCANIAETHAU GWLEIDYDDIAETH
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 Hours. (11 x 1 awr) (yn Gymraeg)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (11 x 1 awr) (yn Gymraeg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Perfformiad Seminar  10%
Arholiad Semester 2 Awr   (1x arholiad 2 awr)  50%
Asesiad Semester 1 x 2,500 o eiriau traethawd  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

- Deall prif themau hanes meddwl gwleidyddol y gorllewin
- fod yn gyfarwydd gyda tair neu bedair ideoleg
- fod yn gyfarwydd gyda rhai o brif meddylwyr yr 20fed ganrif
- gallu cloriannu testun damcaniaeth wleidyddol gwreiddiol
- gallu cyflwyno a gwerthuso dadl wleidyddol

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma'n darparu cyflwyniad i hanes damcaniaeth wleidyddol, a chynnig dadansoddiad manwl o syniadau a meddylwyr penodol

Sgiliau trosglwyddadwy

Yn y modiwl yma cynnigir cyfle i'r myfyrwyr datblygu sgiliau llafar, deallusol a chyfathrebu. Yn y darlithoedd fe fydd pwyslais ar ddeall, dilyn y ddadl a'i chrynhoi’n effeithiol. Pwyslais y seminar fydd datblygu dadleuon eglur, effeithiol a darbwyllol. Maent yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr arddangos ymresymu a barn annibynnol. Fe fydd ysgrifennu traethodau yn cymell myfyrwyr i ymchwilio ar liwt eu hunain, a datblygu eu sgiliau cyflwyno. Fe fydd yr arholiad yn profi gwybodaeth, dealltwriaeth, a sgiliau dadansoddi o dan cyfyngiadau amser.

Nod

Nodau'r cwrs yma yw cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd o, a gwerthusiad beirniadol o rai o brif destunau hanes damcaniaeth wleidyddol. Fe wnelir hyn trwy astudiaeth athronwyr clasurol allweddol, ac archwiliad nifer o ideolegau megis rhyddfrydiaeth, cenedlaetholdeb, ceidwadaeth, ffasgaeth, sosialaeth, ffeministiaeth, ac anarchiaeth.

Cynnwys

Dyma flas o’r pynciau darlith arfaethedig

1. Damcaniaeth wleidyddol a'i hanes
2. Tywysog Machiavelli
3. Athroniaeth Wleidyddol Fodern - Hobbes a Grym y Sofran
4. John Locke a damcaniaeth wleidyddol ryddfrydol
4. Rousseau – parhad y cytundeb cymdeithasol
6. Rhyddfrydiaeth ac Iwtilitariaeth - John Stuart Mill, James Mill a Bentham
7. Ceidwadaeth - Edmund Burke a Michael Oakeshott
8. Ffasgiaeth - Carl Schmitt
9. Anarchiaeth - Bakunin, Godwin a Kropotkin
10. Ffeministiaeth: Mary Wollstonecraft a Martha Nussbaum
11. Sosialaeth – Y Sosialwyr Iwtopaidd a Marx
12. Nietzsche – Tu hwnt i'r Da a'r Drwg
13. Foucault – Gwleidyddiaeth ôl-fodern
14. Habermas – Dialog hollfyd?
15. Rawls – Y Gorchwyl o Gyfiawnder
16. Damcaniaeth Wleidyddol a'i Dyfodol

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
A Vincent Modern Political Ideologies Chwilio Primo B Goodwin Using Political Ideas Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6