Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW38820
Teitl y Modiwl
PRYDAIN AC IWERDDON MEWN RHYFEL A HEDDWCH ERS 1800
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 15 darlith awr
Seminarau / Tiwtorialau 5 seminar awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad dwy awr  50%
Asesiad Semester Traethawd (3,000 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Gwerthuso'n feirniadol y prif ddadleuon yngly^n a^ Phrydain ac Iwerddon ar adegau allweddol
2. Dadansoddi deinameg y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon
3. Gwerthuso ro^l gorfodaeth a thrais yn y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon
4. Archwilio a gwerthuso effaith y Rhyfel rhwng Prydain ac Iwerddon 1919-21
5. Archwilio a gwerthuso cwrs ac effaith y `Trafferthion' wedi 1969
6. Gwerthuso'n feirniadol wahanol esboniadau am ddiwedd y `Trafferthion' yn y 1990au.
7. Dadansoddi ro^l arweinwyr gwleidyddol unigol yn natblygiad y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon
8. Gwerthuso'n feirniadol ddulliau newydd o ymdrin ag astudiaeth o'r berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon gan gynnwys astudiaethau diwylliannol a hanes beirniadol llafar

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn edrych ar ddadleuon yngly^n a^ dechreuadau a deinameg y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon ers y Ddeddf Uno yn 1800. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i astudio'r berthynas hon mewn cyfnodau o heddwch a gwrthdaro. Bydd y cwrs o ddiddordeb i wyddonwyr gwleidyddol a haneswyr, yn ogystal a^ myfyrwyr cudd-wybodaeth a strategaeth. Mae'n ymchwilio i ro^l diplomyddiaeth a gorfodaeth ym mherthynas Prydain ac Iwerddon ac yn edrych ar y dadleuon yngly^n ag esblygiad y berthynas rhwng y ddwy wlad dros ddwy ganrif. Caiff myfyrwyr eu hannog i feddwl yn feirniadol yngly^n a^ sut yr astudir hanes Prydain ac Iwerddon a sut mae methodolegau newydd yn gallu cynnig ystyriaethau, persbectifau a dadleuon ffres.

Cynnwys

1. Cyflwyniad: Prydain ac Iwerddon yn hanesyddol

2. Iwerddon Brydeinig: Gwrthryfel 1798, Y Ddeddf Uno, Rhyddfreiniad Pabyddol a'r Newyn

3. Gwrthdaro ac Ymreolaeth: Fenianiaeth, Cwestiwn y Tir, Gladstone a Parnell

4. `Ulster will fight and Ulster will be right!' Ymreolaeth, llywodraeth Asquith ac ymateb yr Unoliaethwyr
5. `The Union sealed in Blood'? Y Rhyfel Byd Cyntaf a Gwrthryfel y Pasg
6. Rhyfel Prydain Iwerddon 1919-21 (I)

7. Rhyfel Prydain Iwerddon 1919-21 (II)
8. Rhyfel Prydain Iwerddon 1919-21 (III)

9. Cytundeb, Rhyfel Cartref a Gwladwriaeth Rydd
10. Prydain ac Iwerddon yn yr Ail Ryfel Byd, 1939-1945
11. Y sialens i wladwriaeth Gogledd Iwerddon a thwf yr IRA
12. Diwedd Stormont a therfysgaeth y Teyrngarwyr a'r Gweriniaethwyr yn yr 1970au
13. Y `Rhyfel Hir': Gweriniaethwyr, Teyrngarwyr a'r wladwriaeth Brydeinig yn yr 1980au
14. Rhyfel Prydain yn erbyn Terfysgaeth

15. Y Daith at Wener y Groglith 1998 a thu hwnt

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cadarnhau diddordebau'r Adran ym maes Hanes Prydain, Hanes Rhyngwladol, hanes milwrol, strategaeth a chenedlaetholdeb. Mae'n gysylltiedig hefyd a^ diddordebau ymchwil y cydlynydd modiwl. Caiff ei gynnig fel modiwl dewisol i holl fyfyrwyr cynlluniau gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd yn darparu dewis ychwanegol fydd o ddiddordeb i fyfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol, astudiaethau strategaeth, hanes milwrol, cudd-wybodaeth a gwleidyddiaeth.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu ac wrth siarad a dysgu bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yn unig yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir y seminarau mewn grwpiau lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif gyfrwng y dysgu a bydd pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogaeth a chyfathrebu myfyrwyr. Hwylusir hyn drwy grwpiau yn chwarae rol o fewn a thu hwnt i'r seminar ei hun.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y trafodaethau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar, sgiliau cyflwyno a gweithio mewn tim. Mae dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, penderfynu ar fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau yn cyfrannu tuag at bortffolio'r myfyrwyr o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol a sgiliau datrys problemau. Bydd yr angen i ymchwilio a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau fod gallu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun yn cael ei asesu.
Gwaith Tim Bydd seminarau'n cynnwys gweithgareddau chwarae rol mewn grwpiau a disgwylir i fyfyrwyr baratoi, cyflwyno a thrafod fel grwp y prif faterion yn ymwneud a phynciau'r seminarau. Mae trafodaethau a dadleuon dosbarth fel hyn yn elfen hanfodol o'r profiad dysgu yn y modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu gwaith cwrs a phynciau eu cyflwyniadau. Mae gwaith grwp yn rhan hanfodol o'r seminarau ac yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feddwl fel unigolion ac fel grwpiau am eu perfformiad. Rhaid cwblhau cyflwyniad seminar mewn grwp a chyflwyno traethawd ar amser, a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau.
Rhifedd Ddim yn berthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: ; Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl ; Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol ; Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol ; Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth.
Sgiliau ymchwil Bydd cyflwyno traethawd yn dangos sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Anogir sgiliau ymchwil wrth iddynt orfod lleoli adnoddau ymchwil addas a chofnodi'r canlyniadau. Bydd paratoi at gyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6