Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 4 x seminar 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | UN PROSIECT BYR, 2000 O EIRIAU | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a deall corff o wybodaeth ym maes hanesyddiaeth a methodoleg hanesyddol
Adnabod a defnyddio gwahanol berspectifau ar y defnydd o ffynonellau hanesyddol cynradd
Cymharu a gwerthuso ystod o ffyrdd o ddefnyddio ffynonellau cynradd, yng nghyd-destun cynllunio prosiect ymchwil
Darllen, a gwerthuso llenyddiaeth eilradd sy'n rhoi cyd-destun deallusol a haniaethol gogyfer ag ymchwil hanesyddol
Gweithio'n annibynol a gydag eraill
Disgrifiad cryno
Tra bydd myfyrwyr sydd a diddordeb mewn cyfnodau gwahanol eisiau archwilio nifer o ffynonellau sy'n arbennig o berthnasol i'w ymchwil hwy, mae rhai problemau a chysyniadau, er enghraifft gwerth y fethodoleg gymharol, yn gyffredin i haneswyr o bob cyfnod ac arbenigedd. Dyluniwyd y modiwl craidd 10-credyd yma, felly, i alluogi haneswyr o bob math o gynlluniau gradd Meistr o fewn yr Adran i archwilio'r fath bynciau mewn cyfres fer o seminarau. Bydd y modiwl yn cynorthwyo'r myfyrwyr i addasu o waith is-raddedig i waith ol-raddedig, ac yn cynnig cyfle iddynt i osod eu gwaith o fewn fframwaith deallusol a methodolegol eang o'r cychwyn cyntaf.
Nod
Mae'n rhaid i haneswyr ar lefel Meistr fedru ymdrin a sawl math o ffynhonell graidd, a defnyddio nifer o wahanol sgiliau wrth astudio'u pwnc. Pwrpas y modiwl yma yw cyflwyno myfyrwyr i gwestiynau methodolegol a dadansoddol sy'n codi wrth ddefnyddio gwahanol fathau o ffynonellau.
Cynnwys
1) Gweithio gyda dogfen
2) Ffynonellau anllenyddol
3) Hanes Cymharol
4) Hanes Diwylliannol Newydd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa |
Datrys Problemau | Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o'r angen i osod ymchwil hanesyddol o fewn fframwaith hanesyddiaethol a methodolegol gadarn. |
Sgiliau ymchwil | Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7