Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT14010
Teitl y Modiwl
DYNAMEG GLASUROL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Mathemateg Safon Uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 22 darlith/seminar 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg, seminarau drwy'r Gymraeg)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   2 awr: arholiad ysgrifenedig  100%
Arholiad Semester 2 Awr   2 awr: arholiad ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Gwaith cwrs: 2 daflen asesiad  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol dynameg.

2. Datrys problemau rhifiadol ar gyfer mudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu a dehongli’r canlyniadau.

3. Modelu problemau mewn dynameg gan ddefnyddio hafaliadau mathemategol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad i theori glasurol dynameg. Mae tair prif ran i'r modiwl, sy'n dilyn crynodeb fer o brosesau fector. Mae'r rhan gynaf yn ystyried cinemateg glasurol, Deddfau Mudiant Newton, momentwm, grymoedd, gwaith ac egni mecanyddol. Mae'r ail ran yn cyflwyno mudiant cylchdroi ac yn dangos y dulliau paralel i ddulliau mudiant trawsfudol y gellir eu defnyddio. Cyflwynir theori osgiliadau yn y drydedd rhan, yn cynnwys yr osgiliadur harmonig clasurol, cyseiniant, ac osgiliaduron cypledig.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o egwyddorion a thechnegau dynameg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, a darperir enghreifftiau rhifiadol i'r myfyriwr ymarfer. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd blwyddyn-gyntaf cynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg a Mathemateg, ac mae'n paratoi'r myfyriwr ar gyfer defnyddio'r testunau mewn astudiaethau uwch ym modiwlau Rhan 2.

Cynnwys

Fectorau (dwyn i gof)
Mesurau fector a sgalar. Fector safle. Fectorau uned orthogonal.
Trin fectorau: adio, cydrannu, lluosymiau sgalar a fector.

MUDIANT TRAWSFUDOL
1. Cinemateg gronyn: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
2. Deddfau Mudiant Newton: momentwm, pwysau, grymoedd cyffwrdd ar solidau, ffrithiant, mudiant mewn cylch a grym mewngyrchol, grym gwrthiannol.
3. Gwaith ac Egni: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, pŵer, grym cadwrol, egni potensial (disgyrchol a sbring), cadwraeth egni mecanyddol.
4. Cadwraeth momentwm: craidd màs, gwrthdrawiadau, cyfernod adfer.

MUDIANT CYLCHDROI
1. Gwrthrychau solid yn cylchdroi: moment inertia, momentwm onglog, trorym, cyflymiad onglog
2. Dulliau paralel o drin mudiant trawsfudol a mudiant cylchdroi

OSGILIADAU
1. Mudiant Harmonig Syml: cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad, egni.
2. Mudiant Harmonig Syml mewn systemau mecanyddol.
3. Osgiliadau gwanychol a gorfodol, cyseiniant.
4. Osgiliadau cypledig: moddau normal

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl yma a chant eu hasesu drwy aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir addysgu hunan-gyfeiriedig a gwella perfformiad drwy daflenni enghreifftiau a phecyn gwaith cartref electronig. Darperir datrysiadau i'r taflenni enghreifftiau. Caiff y gwaith cartref electronig ei asesu drwy lyfrau graddau ar-lein.
Rhifedd Mae problemau rhifiadol ar daflenni enghreifftiau a phapur arholiad yn datblygu sgiliau rhifedd.
Sgiliau pwnc penodol Mae dynameg yn destun craidd mewn Ffiseg a Mathemateg.
Sgiliau ymchwil Bydd darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi'r myfyriwr i ymchwilio'r testunau a ystyrir yn y modiwl.

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Jewett, John W. (c2010.) Physics for scientists and engineers with modern physics. /John W. Jewett, Raymond A. Serway, with contributions from Vah e Peroomian. 8th ed., International ed. Brooks/Cole Cengage Learning Chwilio Primo Tipler, Paul Allen (c2008.) Physics for scientists and engineers :with modern physics /Paul A. Tipler, Gene Mosca. 6th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4