Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC33240
Teitl y Modiwl
CYNHYRCHU TELEDU UWCH
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill 10 x Gweithdy 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad Cynhyrchu Aml Gyfrwng  50%
Asesiad Semester Arholiad Grwp a Dogfennaeth Aml Gamra (2500 o eiriau)  21 and 22 January 2013  50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Cynyrchu Aml Gyfrwng  50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Ysgrifenedig (Aml Gamra)  Os fethir cyfrannu at y cynhyrchiad terfynol amlgyfryngol am resymau meddygol neu resymau dilys eraill, gofynnir ir myfyriwr gyflwyno traethawd (6000 o eiriau) yn ei le. Bydd natur y dasg yn cael ei benderfynu gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi yn ddibynnol ar ganran y gwaith a gollwyd.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos dealltwriaeth o'r gwahanol elfennau sydd ynglwm a phrosesau cynhyrchu cyfryngol o fewn stiwdio ddigidol

Arddangos meistrolaeth o gyfres o sgiliau allweddol sydd ynglwm a'r prosesau hyn

Ystyried y broses gynhyrchu a'u gwaith creadigol mewn fframwaith gritigol ac atblygol

Nod

Amcan y modiwl hwn sydd yn coleddu cydgyfeiriant yn y cyfryngau yw cynnig cyfle i fyfrwyr weithio mewn grwp ar gynhyrchiad ymarferol amlgyfryngol a fydd yn cwmpasu sawl agwedd ar ymdriniaeth gyfryngol megis sgriptio, gwaith camera sengl, cynhyrchu stiwdio amlgamera, creu llwyfannau gwe a chyfathrebu electronig a chymdeithasol arall perthnasol. Bydd y modiwl yn cynnig cyd-destun ar gyfer ystyriaethau technegol, moesol, aesthetig a chysyniadol sydd ynglwm a chynhyrchu amlgyfryngol. Bydd pwyslais ar feirniadaeth atblygol o fewn y grwp a gan fyfyrwyrs yn unigol ar eu gwaith eu hunain.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr adeiladu ar eu profiad cynhyrchu creadigol ac i ddatblygu gwaith cynhyrchu aml-gyfryngol ac aml-lwyfan mewn cyd-destun atblygol a beirniadol. Bydd cyfle i greu cynhyrchiad a fydd yn ymestyn sgiliau a chymhwyso gwybodaeth o wahanol genres o fewn y cyfryngau yn ogystal ag egwyddorion cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol. Fe ddysgir y modiwl drwy ddarlithoedd a gweithdai a fydd yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar brosesau cynhyrchu o fewn cyd-destun ehangach o adeiladu prosiect cynhwysfawr a fydd yn cynnwys gwaith sgriptio, camera sengl, cynhyrchu amlgamera a chyfryngau newydd. Bydd y Cydlynydd yn gosod tasgau i'r myfyrwyr o sesiwn i sesiwn ac fe gaiff rhain eu cyflawni mewn grwpiau ac yn unigol.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno mewn elfennau fel a ganlyn:

Y Stiwdio Ddigidol: Prosiect Cydgyfeiriannol a Chynhyrchiad Aml-gyfryngol ac Aml-lwyfan

Datblygu Syniadau: Gwerthuso a thafoli pynciau, themau, ymdriniaeth, genrau, technoleg ac arddulliau.

Ystyriaethau Cynhyrchu ar gyfer Cynhyrchu 'Ffuglen' a Chynhyrchu 'Ffeithiol'.

Cyd-destun Stiwdio a Chynhyrchu: Gweithio mewn tim a dadansoddi rol unigolion.

Ffurfioli Syniadau a Beirniadaeth Atblygol

Creu cynnwys:

1. Ymchwilio (Pobl, Lleoliadau)
2. Sgriptio
3. Cynnyrch Ffeithiol/Dogfen
4. Cynnyrch ffuglen
5. Defnydd Archifau
6. Cyfryngau Newydd
7. Camera Sengl a Golygu
8. Stiwdio Aml-gamera

Llwyfannu neu gyflwyno'r cynhyrchiad aml-gyfrwng ac aml-lwyfan.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu cynhyrchiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd gweithio yn annibynnol ac mewn grwp yn sgiliau a ddatblygir yn y modiwl hwn ac yn hynny o beth gwelir fod elfen o ddatblygiad personol yn rhan ohono. Bydd hefyd yn gyfle i fyfyrwyr ystyried gwahanol rolau o fewn timau cynhyrchu yn y diwydiannau creadigol ac felly gall dilyn y modiwl gyfrannu at sgiliau cynllunio gyrfa i unigolion.
Datrys Problemau Fe ddatblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu'r problemau a geir wrth gynllunio ac ymgymryd a gwaith cynhyrchu, megis problemau yn ymwneud ag offer, lleoliadau, newid trefniadau ac ati. Yn ogystal wrth weithio mewn grwp caiff y sgiliau hyn eu datblygu ymhellach.
Gwaith Tim Mae'r gallu i weithio fel aelod o dim creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu; ac fe fydd sgiliau arwain tim a chydweithio fel rhan o dim yn rhan bwysig o'r meini prawf ar gyfer asesiadau'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd yn gyson, gan ystyried y cyfraniadau ar lefel leol ac i gyfanwaith y prosiect. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modiwl.
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Gweler ASA, Datganiadau Meincnodau Pynciau, Communication, Media, film and Cultural Studies (2008)
Sgiliau ymchwil Fe ddatblygir sgiliau ymchwil penodol ar gyfer y prosiect cynhyrchu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathregbu ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6