Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG31710
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu Ymchwil
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Sesiwn briffio ar ddechrau'r semester
Seminarau / Tiwtorialau 9 x seminar 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Seminar  40%
Asesiad Semester Erthygl cylchgrawn  30%
Asesiad Semester Tudalen ar y we a Phodlediad  30%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Ymchwilio a chrynhoi pynciau sydd o ddiddordeb cyfredol i'w gradd

2. Cyflwyno a dadlau eu crynodebau yn llafar mewn fformat seminar

3. Llunio erthygl 500 gair sydd wedi'i gynllunio i gyfathrebu'r pwnc i gynulleidfa gyffredinol

4. Llunio tudalen ar y we a phodlediad

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau o ddiddordeb cyfredol sy'n berthnasol i'w gradd. Cyflwynir un pwnc ar fformat seminar ac erthygl cylchgrawn, ac ail bwnc ar fformat tudalen ar y we sydd hefyd yn cynnwys darllediad radio / podlediad 5 munud.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys 8 x sesiwn 2 awr ar gyfer cyflwyniadau seminarau unigol. Caiff myfyrwyr eu briffio am y sgiliau cyflwyno gofynnol ar ddechrau'r Semester. Llunnir amserlen seminarau, a disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu cyflwyniadau PowerPoint yn electronig cyn dechrau'r gyfres o seminarau. Rhoddir adborth priodol ar ôl i'r seminar gael ei gyflwyno. Dylai pob seminar bara tua 15 munud, ac ar ôl hynny ceir trafodaeth gyffredinol. Disgwylir i'r holl fyfyrwyr fynychu a chyfrannu'n llawn at y drafodaeth ar bob pwnc. Cyn sesiwn olaf y Semester, mae'n rhaid i'r wefan, a'r podlediad ynddo, fynd yn fyw.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu ymchwil i gynulleidfa gyffredinol, ac asesir fformatau gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfathrebu, sydd yn allweddol i wella cyflogadwyedd
Datrys Problemau Mae'r sgil hon yn elfen allweddol o'r modiwl, sef gweithio allan sut i grynhoi gwybodaeth a'i chyflwyno mewn fformat hygyrch
Gwaith Tim Anogir myfyrwyr i holi ei gilydd ar ôl y cyflwyniadau seminar, ac mae elfen o waith tîm
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwella dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, cyfathrebu a gwaith tîm
Rhifedd Ddim yn elfen bwysig yn y modiwl
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn gofyn i fyfyrwyr gymathu gwybodaeth o lenyddiaeth academaidd
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir amrywiaeth o fformatau TG yn ystod y modiwl hwn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6