Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG34010
Teitl y Modiwl
Taith Astudio Amaethyddiaeth y Flwyddyn Olaf
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Taith maes 5 diwrnod
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig 4,500 gair ar y daith astudio  80%
Asesiad Semester Seminarau'r daith astudio  20%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, lleoliad, arferion amaethyddol a'r economi wledig.

2. Mabwysiadu ymagwedd feirniadol, gwerthusol a dadansoddol tuag at amaethyddiaeth a'r economi wledig.

3. Gwerthfawrogi pa mor gymhleth yw gwneud penderfyniadau wrth reoli ac arallgyfeirio cefn gwlad y DU.

Disgrifiad cryno

Bydd myfyrwyr yn ymweld â sir / ardal yn y Deyrnas Unedig ar gwrs maes / taith astudio sy'n para wythnos, gan ddod i werthfawrogi ei nodweddion daearyddol, cymdeithasol ac economaidd. Defnyddir ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad fel astudiaethau achos i dynnu sylw at faterion allweddol.
Yn ychwanegol at gymryd rhan yn yr ymweliadau ac yn y seminarau gyda'r nos, bydd myfyrwyr yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ar yr ardal. Bydd y ffordd o fynd ati drwy'r cyfan yn ddadansoddol, yn feirniadol a gwerthusol a bydd yn cynnwys adolygiad trylwyr o lenyddiaeth briodol.

Cynnwys

Caiff y modiwl ei gyflwyno drwy gyfuniad o ymweliadau yn ystod cwrs maes / taith astudio sy'n wythnos o hyd. Cynhelir y seminarau gyda'r nos yn dilyn yr ymweliadau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y daith astudio (gan gynnwys seminarau gyda'r nos tra ar daith) yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig yn datblygu sgiliau cyfathrebu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwneir cysylltiadau diwydiannol yn ystod y daith astudio.
Datrys Problemau Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir
Gwaith Tim Bydd y daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer rhyngweithio a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd y myfyrwyr yn cael profiad ymchwilio cyn y daith astudio ac yn ystod y daith, yn ogystal â chwblhau gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyflwyno gwaith cwrs yn datblygu ymhellach y sgiliau TG a gyflwynwyd yn semester 1

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6