Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GQ31620
Teitl y Modiwl
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 Awr. (16 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Awr (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   (Arholiad 2 Awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau yn lle arholiad  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Deall a dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol system wleidyddol y Deyrnas Unedig.
2. Deall a dadansoddi'n feirniadol natur y berthynas rhwng sefydliadau gwleidyddol ar lefelau llywodraethiant gwahanol.
3. Ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol a natur diwylliant gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.
4. Ystyried yn ddeallus rôl cynrychiolwyr yn y system wleidyddol.
5. Defnyddio'n effeithiol y sgiliau canlynol: adnabod a lleoli ffynonellau priodol; astudio'n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG a rheoli amser.
6. Arddangos y gallu i gysylltu themau a chysyniadau a astudiwyd gyda digwyddiadau gwleidyddol cyfoes.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw rhoi cyflwyniad i wleidyddaeth gyfoes yn y Deyrnas Unedig. Mae'r modiwl yn ystyried ystod eang o faterion allweddol, gan gynnwys rôl sefydliadau gwleidyddol yn y broses o ddatblygu a gweithredu polisïau; rôl ac ideoleg y pleidiau gwleidyddol; etholiadau a chyfranogiad; diwygio cyfansoddiadol; effaith datganoli a’r refferendwm ar annibynniaeth i'r Alban ar natur yr Undeb; a'r berthynas anesmwyth rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Cynnwys

Darlithoedd

1. Cyflwyniad: Datblygiad y Wladwriaeth Brydeinig a'i System Wleidyddol

2. Gwleidyddiaeth a Chymdeithas er 1945

3. Etholiadau, Pleidleisio, a Chyfranogiad (I)

4. Etholiadau, Pleidleisio, a Chyfranogiad (II)

5. Y Pleidiau Gwleidyddol

6. Y Prif Weinidog a'i Gabinet

7. Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil

8. Tŷ'r Cyffredin a'r Cysyniad o Gynrychiolaeth

9. Tŷ'r Arglwyddi a'r achos o blaid ei ddiwygio

10. Y System Farnwriaethol

11. Y Wasg a Gwleidyddiaeth

12. Datganoli a dyfodol y Deyrnas Unedig

13. Gogledd Iwerddon

14. Llywodraeth Leol

15. Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd

16. Casgliadau a Chyfarwyddiadau Arholiad

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyfrannu at ddarpariaeth dysgu israddedig (Rhan 2) Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y maesydd Astudiaethau Gwleidyddol, Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, a Gwleidyddiaeth Cymru.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau yn llafar ac yn ysgrifenedig a sut i ddatgan eu hunain yn gadarnhaol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn yn y ffordd orau. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio gwahanol ffynonellau o wybodaeth a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i'r fantais orau. Byddant yn dysgu bod yn glir ac uniongyrchol wrth gyfathrebu a bod yn uniongyrchol ynglŷn â nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth yn unig. Bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar sgiliau gwrando a sgiliau llafar gan y byddwn yn asesu perfformiadau seminar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu traethodau wedi’u gairbrosesu a dylai’r modd y cyflwynir y gwaith arddangos mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith fydd yn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynlluniwyd y modiwl mewn modd ddylai ddatblygu a hogi sgiliau a fydd o werth i fyfyrwyr yn eu bywydau gwaith, yn arbennig wrth iddynt siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i safbwyntiau eraill. Bydd y tasgau ysgrifenedig yn gofyn am ysgrifennu'n glir a chryno, tasg gyffredin yn gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl I ystyried eu perfformiad eu hunain ac ystyried gwersi ar gyfer y dyfodol.
Datrys Problemau Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd cyflwyno dau draethawd a pharatoi at drafodaethau seminar yn gofyn I fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd sgiliau datrys problemau myfyrwyr yn cael eu datblygu a’u hasesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhagweld ateb i broblem; ystyried achosion eithafol; trafod yn rhesymegol; paratoi modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; chwilio am batrymau; dosbarthu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cael ymarferion tîm yn y seminarau. Bydd seminarau nifer o bynciau'r modiwl hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp lle bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod fel grŵp faterion canolog pwnc y seminar. Bydd y trafodaethau grŵp yn ffurfio rhan arwyddocaol o’r modiwl ac yn caniatáu i fyfyrwyr ystyried ac archwilio pwnc penodol drwy gyfrwng gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y cynullydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig a phynciau eu cyflwyniadau. Bydd y rheidrwydd i baratoi ar gyfer cyfraniadau seminar asesedig a chadw at ddyddiadau cau y gwaith cwrs yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser.
Rhifedd Ddim yn berthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan y myfyrwyr gyfle I ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yn cynnwys:: • Casglu a deall ystod eang o ddata perthnasol i'r modiwl • Gwerthuso persbectifau gwahanol • Arddangos technegau ymchwil pwnc benodol Cymhwyso amrywiol fethodolegau i broblemau gwleidyddol hanesyddol a chyfoes.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar gyfer pob elfen o’r gwaith asesedig. Golyga hyn ddefnyddio ffynonellau cyfryngol a’r we yn ogystal â thestunau academaidd mwy confensiynol. Asesir myfyrwyr yn rhannol ar eu gallu i gasglu deunyddiau diddorol a pherthnasol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith wedi'i baratoi ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6