Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Supplementary Exam Arholiad ysgrifenedig 3 awr ac unrhyw waith ysgrifenedig a fethwyd. | 50% |
Arholiad Semester | 3 Awr Semester Examination Arholiad ysgrifenedig 3 awr 3 hour closed examination | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Atodol Dylid cyflwyno traethodau ar gyfer ailsefyll ar wahanol destun i?r rhai a fethwyd. | 50% |
Asesiad Semester | Semester Assessment 2 x traethawd o 2,500 o eiriau 2 x 2,500 word essays | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth soffistigedig o hanesyddiaeth yr oesoedd canol o tua 1200 hyd 1500 a sut y mae wedi datblygu
Arddangos dealltwriaeth o sut yr amlygir teithi meddwl y byd canoloesol, mewn amryw gyd-destunau gwahanol, gan werthfawrogi'r gwahaniaethau rhyngddo a rhagdybiaethau'r byd cyfoes
Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a gwerthuso eu defnyddioldeb i'r hanesydd
Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol er mwyn cynhyrchu dadleuon priodol ar wahanol themau perthnasol
Arddangos y gallu i weithio fel unigolion gan reoli amser yn effeithiol
Arddangos a datblygu'r medrau sydd yn briodol i astudio'r oesoedd canol a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol
Disgrifiad cryno
Sut oedd pobl yr oesoedd canol yn gweld y byd o'r cwmpas? Sut mae'r bosibl dysgu am ffordd o feddwl cyfnod arall mewn hanes? Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wybodaeth pobl ganoloesol am y byd, sut oeddent yn dehongli'r wybodaeth honno a'r chwilfrydedd i ddarganfod mwy. Trwy edrych ar faterion megis syniadau dychmygol am y byd, meddygaeth, y ffordd y cai unigolion ar ymylon cymdeithas eu trin a'r ymdrech i ddarganfod y byd tu hwnt i Ewrop byddwn yn cael golwg ar y meddwl canoloesol ac effaith y syniadau hynny ar fywyd cymdeithas. Ceir ymgais arbennig i geisio gweld sut oedd pobl `gyffredin? yn gweld y byd o'r cwmpas, os oedd hynny yn wahanol i syniadau rhannau eraill o'r gymdeithas ac i ba raddau y gallent herio'r syniadau derbyniol. Gwneir hyn trwy ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau o'r cyfnod, gan gynnwys ffynonellau ysgrifenedig a gweledol megis y Mappa Mundi, ac astudir sut oedd gwybodaeth a syniadau yn treiddio trwy gymdeithas. Erbyn y diwedd dylai myfyrwyr gael golwg gwell ar bobl yr oesoedd canol a gwerthfawrogi'r modd mae cyfnodau gwahanol yn meddwl yn wahanol am y byd o'r cwmpas.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr i nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol ar gyfer seminarau a thraethodau |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gydweithio o fewn tïm drwy weithgarwch y seminar |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dychwelir gwaith ysgrifenedig o fewn tiwtorial a rhoddir cyngor ar sut i wella ar dechnegau ymchwil ac ysgrifennu y myfyrwyr. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglŷn â diwylliant canoloesol; datblygu’r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddod i ddeall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu gwaith academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o adnoddau priodol wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno eu gwaith, gan gynnwys adnoddau ar y rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6