Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM0820
Teitl y Modiwl
Ysgrifennu Rhyddiaith: Genre
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Gradd dda yn y Gymraeg neu mewn iaith arall a meistrolaeth ar Gymraeg ysgrifenedig, neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll 
Asesiad Semester Cyfansoddi 2 darn rhyddiaith gwreiddiol (1,000 o eiriau yr un), ynghyd ag esboniad beirniadol 1,500 o eiriau i gyd-fynd â’r casgliad (3,500 o eiriau i gyd).  60%
Asesiad Semester Cynnal a threfnu darlleniad cyhoeddus yn yr ail semester. Cofnodir y gweithgareddau hyn ar Ddyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu AberLearn (1,000 o eiriau).   40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

dangos dealltwriaeth o’r genres dan sylw yn eu hymarferion eu hunain; medru ystyried eu cryfderau a’u nodweddion eu hunain fel awduron. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

dangos dealltwriaeth o’r posibiliadau sydd ar gael i awduron wrth gyflwyno deunydd ac o’r canlyniadau sy’n deillio o ddewis un genre yn lle’r llall. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

dangos dealltwriaeth o’r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau; dangos ymchwil ffeithiol briodol. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.

medru llunio darn o ryddiaith ar un neu fwy o’r genres a astudir.

Disgrifiad cryno

Rhesymeg y modiwl dewisol hwn yw bod angen sylfaen theoretig gadarn, yn ogystal â chyfleoedd ymarferol, ar y rhai sy’n dymuno datblygu eu creadigrwydd ym maes rhyddiaith.

Bydd y modiwl ymarferol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu rhyddiaith ac i ymateb i ofynion llenyddol yn ôl natur y testun, y gynulleidfa, y genre a’r arddull.

Cynnwys

Bydd y modiwl hwn yn gyfle i archwilio ac i ddatblygu amcanion creu ffuglen ac i drafod gwaith ar-y-gweill mewn awyrgylch beirniadol, adeiladol a chreadigol. Canolbwyntir ar genre. Cynigir cyfres o ddarlithiau, seminarau a gweithdai dan fugeiliaeth y staff a llenorion gwadd a fydd yn ystyried rhyddiaith fel ffurf ar ymchwil ddiwylliannol, a hynny yn sgil cysylltiad nifer o awduron o arwyddocâd cenedlaethol â’r Adran: T. Gwynn Jones, T. H. Parry-Williams, Gwenallt, Bobi Jones, Robin Llywelyn, Owen Martell, Catrin Dafydd.

Cynigir yr arlwy ganlynol mewn sesiynau dwyawr (darlith a seminar; gweithdy):

• Rhagarweiniad: theori genre yn gyffredinol (1 sesiwn dwyawr);
• ffuglen (3 sesiwn dwyawr);
• ffuglen wyddonol (2 sesiwn dwyawr);
• ffuglen ffeithiol (2 sesiwn dwyawr);
• y cofiant a’r hunagofiant (2 sesiwn dwyawr).

Nid anelir y modiwl hwn at ddechreuwyr pur yn y maes. Disgwylir y bydd gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn rhyddiaith yn barod ac y byddant eisoes wedi cynhyrchu peth gwaith creadigol. E.e. mae’n bosib y byddai rhai myfyrwyr wedi cyfansoddi straeon byrion ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol neu ar gyfer modiwl y Ysgrifennu Creadigol israddedig.

Nod

Bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r posibiliadau creadigol sydd ar gael i awduron rhyddiaith cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu creadigrwydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch rhyddiaith a’i genres.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod.
Datrys Problemau Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cydweithio i drefnu darlleniadau cyhoeddus o’u gwaith.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau rhyddiaith yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol eu tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) rhyddiaith i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Taliesin, Tu Chwith, ‘Y Neuadd’
Sgiliau ymchwil Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar gyfer y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau rhyddiaith o wahanol gyfnodau hanesyddol
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7