Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW12520
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 2
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours (20 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 18 Hours (9 x 2 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad (2 awr)  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ( 2 Awr)  40%
Asesiad Ailsefyll Trarthawd (2,500 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ysgrifenedig byr (1,000 o eiriau)  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad Seminar  20%
Asesiad Semester Traethawd (2,500 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos, ar lafar ac yn ysgrifenedig, wybodaeth feirniadol o brif gysyniadau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol (mae’r wybodaeth yma yn cynnwys sgiliau hanesyddol, dadansoddol a myfyriol fydd wedi’u hymarfer yn dda gan y myfyriwr).

Dangos gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn mewn amgylchiadau penodol a’u mireinio a/neu eu beirniadau yn unol â’r cyd-destun.

Dangos gallu i gyflwyno ar ddiwedd y ddau fodiwl (Exploring the International 1 a 2) a synnwyr eang o’r ddisgyblaeth a’i dyfodol.

Dangos gallu i gyflwyno dadl gydlynol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Dangos gallu i lunio traethawd yn cynnwys y cyfeiriadau priodol ac ymateb yn dda o ofynion arholiad heb ei weld ymlaen llaw.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i ystyried datblygiadau gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn. Mae'r maes llafur yn unigryw gan mai digwyddiadau’r byd fel y'u hadroddir gan y cyfryngau sydd o reidrwydd yn ei bennu. Canolbwyntir ar newyddion a barn sy’n ymddangos o wythnos i wythnos yn ystod y semester, a bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau fel ymchwilwyr, meddylwyr beirniadol, cyflwynwyr ac ysgrifenwyr yn ogystal â dod yn fwy ymwybodol o'r cyfryngau. Yn y darlithoedd, dangosir y ffyrdd y mae amrywiol ymchwilwyr academaidd a deallusion o blith y cyhoedd yn ymateb i ddigwyddiadau yn y byd, a bydd gweithdai trylwyr yn help i ddatblygu'r sgiliau fydd yn cael eu hasesu yn y modiwl.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad o'r cynnwys, fesul wythnos, gan nodi'r darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.
Darlith 1 – Cyflwyniad
Adran 1 – Beth yw ei ddeinameg?
Darlith 2 – Grym milwrol: rhyfel a gwleidyddiaeth
Darlith 3 – Grym milwrol: terfynau grym
Darlith 4 – Grym economaidd: marchnad y byd
Darlith 5 – Grym economaidd: y cyfoethog a’r tlawd
Darlith 6 – Grym syniadaethol: grym diwylliannol
Darlith 7 – Grym syniadaethol: yr arferol a’r gyfraith

Adran 2 – Rhyngwladol pwy?
Darlith 8 – Y 'Trydydd Byd'
Darlith 9 – Datblygiad neu neodrefedigaethrwydd?
Darlith 10 – Hil: y rhyngwladol a'r llinell liw
Darlith 11 – Rhywedd: y drefn wleidyddol ryngwladol a phatriarchiaeth
Darlith 12 – Dosbarth: rhyngwladol cyfalafol
Darlith 13 – Herio'r gyfundrefn ryngwladol

Adran 3 – I ble mae'n mynd?

Darlith 14 – ‘Grymoedd Mawrion' Newydd?
Darlith 15 – Rhyngwladol ôl-Orllewinol?
Darlith 16 – Cyfrifoldebau yn y rhyngwladol
Darlith 17 – Cyfiawnder byd-eang?
Darlith 18 – Y byd anynnol a'r rhyngwladol
Darlith 19 – Tu hwnt i'r rhyngwladol?

Darlith 20 – Casgliad

Nod

Nod y modiwl yw archwilio rhai o brif foddau grym, dylanwad a newid yn y maes rhyngwladol; wrth wneud hynny, bydd y modiwl yn rhoi syniad i fyfyrwyr o’r gwahanol fathau o rym, y math o ddeinameg a grëir ganddynt, sut y gellir eu defnyddio a beth yw’r cyfyngiadau. Mae’r modiwl hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r rhyngwladol, fel gofod gwleidyddol gwahaniaethol iawn, ac yn arbennig wahaniaethau parhaol grym, cyfoeth a chyfle o fewn i gydraddoldeb ffurfiol. Yn olaf, nod y modiwl yw edrych ar y rhyngwladol heddiw ac yn y dyfodol. Bydd yn archwilio deinameg allweddol y byd cyfoes ac yn holi a ydyw’n arwain at drawsnewid yn y drefn ryngwladol yn ystod y degawdau nesaf.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu’n eglur a sut i wneud y gorau ohonynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r lliaws ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio’r ffurf gyfathrebu fwyaf priodol. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad ac i fod yn uniongyrchol o ran nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu i ystyried yr hyn sy’n berthnasol i’r pwnc yn unig, a chanolbwynt ac amcanion y ddadl neu’r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gyflwyno’r asesiadau ysgrifenedig wedi’u geirbrosesu a dylai’r modd y byddant yn cyflwyno’r gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniant a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i fireinio a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ystod eu bywyd gwaith, yn arbennig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir a chryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac i ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gweithio’n annibynnol a datrys problemau yn amcan canolog o’r modiwl; bydd cyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer nifer o bynciau’r modiwl hwn, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bychain lle gofynnir i fyfyrwyr drafod fel grŵp y pynciau craidd sy’n ymwneud â phwnc y seminar. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn galluogi’r myfyrwyr i drafod ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hybu hunanreolaeth ond o fewn i gyd-destun y mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydgysylltydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dangos menter, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad y gwaith cwrs a phynciau’r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i’r pwnc sy’n eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau penodol i’r pwnc yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy’n berthnasol i’r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â’i gilydd
Sgiliau ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith i’w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, yn enwedig ffynonellau cyfryngau cyfredol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu, drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4