Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
GY25100
Module Title
Profiad Gwaith
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminars / Tutorials 5 X 2 AWR
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion

Aims

Gan fod tua 100 o sefydliadau addysg uwch yn cynnig cyrsiau mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, neu gyrsiau cysylltiedig, mae nifer fawr o raddedigion yn chwilio am swydd bob blwyddyn. Er mwyn denu cyflogwyr yn y dyfodol, rhaid i raddedigion feddu ar sgiliau a phrofiadau yn ogystal ag arbenigedd academaidd. Mae'r modiwl Profiad Gwaith yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ystyried a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd ac ennill profiad yn y gweithle, tra'n ennill credydau tuag at y radd ar yr un pryd, i gyd-fynd a'u datblygiad academaidd. Gall yr addysg a'r profiadau y bydd myfyrwyr yn eu derbyn yn ystod y modiwl Profiad Gwaith fod o gymorth i'w siawns o gael gwaith ar ol iddynt raddio. Rhesymeg arall yw'r cyfle posibl i fyfyrwyr roi eu gwybodaeth am Wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar waith mewn sefyllfaoedd yn y byd go-iawn.

Brief description

Mae'r modiwl Profiad Gwaith wedi'i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ddefnyddio 50 awr o waith gwirfoddol neu waith y'u telir amdano fel cyfle ar gyfer hunanddatblygiad ac ar gyfer gwella eu siawns o gael swydd. Man cychwyn y modiwl fydd myfyrwyr yn adnabod profiadau gwaith posibl ac yn archwilio sgiliau, cryfderau a gwendidau personol. Mae'r modiwl yn parhau gyda'r profiad gwaith ei hun, gan arwain at gyflwyno portffolio o ddeunyddiau a fydd yn ffurfio'r asesiad. Gall y profiad gwaith fod yn unrhyw fath o waith a gall ddigwydd ar unrhyw adeg, yn ystod y tymor neu'r gwyliau, rhwng diwedd y flwyddyn gyntaf a diwedd yr ail flwyddyn. Ceir cymorth adnoddau ar-lein i sicrhau cyswllt ac arweiniad ble bynnag a phryd bynnag y daw myfyrwyr o hyd i waith.
Cyn i'r myfyriwr ymgymryd a phrofiad gwaith, rhaid i'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gytuno bod y cyflogwr yn addas. Rhaid i'r myfyrwyr sicrhau eu bod yn cwblhau dwy adran y Modiwl Profiad Gwaith: Holiadur Iechyd a Diogelwch ac yn cael llythyr gan frocer/asiant yswiriant y cwmni sy'n nodi lefel telerau yswiriant atebolrwydd ac yn nodi'n glir y dyddiadau y mae'r telerau hyn yn gymwys. Rhaid cyflwyno copi o'r holiadur a'r llythyr i'r adran cyn cychwyn ar brofiad gwaith a chynnwys copi yn y portffolio a asesir.

Content

Mae elfen fawr o'r modiwl yn cynnwys profiad gwaith a hunanystyriaeth annibynnol, ac o'r herwydd pennir y rhan fwyaf o'r cynnwys gan anghenion unigol y myfyrwyr. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio gwasanaethau'r adran gyrfaoedd ac mi fyddant yn dysgu sgiliau chwilio-am-swydd ymarferol a ffyrdd o fod yn weithwyr cynhyrchiol.


Notes

This module is at CQFW Level 5