Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TR32020
Module Title
Traethawd Estynedig Troseddeg a Seicoleg 1 (sem 1)
Academic Year
2014/2015
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Mutually Exclusive
Mutually Exclusive
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 6 awr
Other 2 sesiwn datrys problemau ar y cyd.
Other Cyfarfodydd â'r goruchwyliwr, yn ôl yr angen
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Estynedig  (8,000 - 10,000 o eiriau ar y pwnc a gymeradwywyd)  100%
Supplementary Assessment Traethawd Estynedig  (8,000 - 10,000 o eiriau ar yr un pwnc)  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy adnabod testun hyfyw i ymchwilio iddo;
2. Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau a dangos gallu i werthuso a blaenoriaethu'r ffynonellau pwysicaf;
3. Cynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd;
4. Trefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl, y gwerthusiad beirniadol, y data a'r sylwadau clo yn effeithiol;
5. Dadansoddi'n feirniadol a gwerthuso'r deunydd troseddegol a seicolegol;
6. Rhoi cyflwyniad eglur, cywir, dadansoddol a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.

Brief description

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud â phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig.

Content

1. Lleoli cwestiynau ymchwil a chynllunio'r ymchwil;
2. Pynciau Moesegol;
3. Llên-ladrad;
4. Ysgrifennu'r traethawd;

Bydd y pwnc sylwedd yn cael ei ddewis gan y myfyriwr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd nifer o'r testunau yn cynnwys gwaith dadansoddol ystadegol cymhleth fydd angen ei ddeall a'i werthuso.
Communication Anogir cyfathrebu ar lafar trwy drafod syniadau a mynegi'r problemau sy'n gysylltiedig â'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda'r goruchwyliwr. Atgyfnerthir cyfathrebu ysgrifenedig drwy baratoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.
Improving own Learning and Performance Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a'r angen i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol a'u trefnu, bydd y myfyriwr yn dysgu i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Information Technology Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau yn arbennig; Paratoi'r aseiniad yn electronig.
Personal Development and Career planning Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith ar amser.
Problem solving Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn cynnwys sgiliau datrys problemau a bydd gwneud hynny yn atgyfnerthu ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes.
Research skills Mae datblygu sgiliau ymchwil yn hanfodol mewn modiwl traethawd estynedig.
Subject Specific Skills
Team work Gelwir nifer o gyfarfodydd i roi cyfle i'r myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu'r problemau a wynebwyd a'r atebion posibl iddynt.

Notes

This module is at CQFW Level 6